Cytundebau Masnach

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 11 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:50, 11 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i Mike Hedges am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n rhannu ei bryder. Mae cynllun gweithredu diwedd y cyfnod pontio a gyhoeddwyd gennym y bore yma yn nodi'r risgiau y mae'n eu disgrifio yn ei gwestiynau i'r sector cig coch pe baem yn dod â'r cyfnod pontio i ben heb y math o gytundeb masnach y mae'n sôn amdano. Dyna pam ei bod mor bwysig sicrhau nad ydym yn y sefyllfa honno, a phe baem yn mynd i'r sefyllfa honno, mae'r cynllun yn disgrifio'r math o gymorth y bydd ei angen ar ffermwyr yng Nghymru, a byddai hwnnw'n gymorth sylweddol iawn. Nawr, bydd rhywfaint o'r gwaith a wnaethom ar y cynlluniau wrth gefn y llynedd, pan oeddem yn wynebu'r risg o adael heb unrhyw fath o gytundeb, wedi ein rhoi mewn sefyllfa dda eleni i ryw raddau, ond os byddwn yn gadael heb gytundeb, mae'n sicr yn wir y byddai graddau'r ymyrraeth angenrheidiol yn galw am gymorth sylweddol ar draws y DU.