Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Mae dadansoddiadau gan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth yn awgrymu y gallai tariffau Sefydliad Masnach y Byd ychwanegu unrhyw beth o 38 y cant i 91 y cant at bris cig defaid o Brydain i brynwyr Ewropeaidd, yn ogystal â'r rhwystrau heblaw am dariffau i fasnach, ac rydym i gyd yn gwybod hynny. Mae Tsieina, mewnforiwr cig defaid mwyaf y byd, yn gosod tariff ad valorem o 12 y cant i 15 y cant ar gig oen a 23 y cant ar fewnforion cig dafad, ond mae ganddynt gytundeb masnach rydd gyda Seland Newydd ac Awstralia, eu prif gyflenwyr. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn rhannu fy mhryder ynglŷn â ffermio defaid os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ac yn gorfod ceisio cystadlu â phrisiau Seland Newydd ac Awstralia?