Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Nid yw Llywodraeth y DU wedi rhannu unrhyw fanylion eto am ei chronfa ffyniant gyffredin ag unrhyw un o'r Llywodraethau datganoledig, er gwaethaf ein hymdrechion i ymgysylltu. Disgwyliwn i rai manylion gael eu cyhoeddi yn ystod yr adolygiad o wariant, sydd i'w gynnal, fel y bydd yn gwybod, fis cyn i'n cyllid UE ddechrau dod i ben.