2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru ar 11 Tachwedd 2020.
7. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran nodi manylion y gronfa ffyniant gyffredin? OQ55831
8. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin a'i goblygiadau i Gymru? OQ55836
Rwy'n deall, Llywydd, eich bod chi wedi cytuno i gyfuno hwn â chwestiwn 8.
Nid yw Llywodraeth y DU wedi rhannu unrhyw fanylion eto am ei chronfa ffyniant gyffredin ag unrhyw un o'r Llywodraethau datganoledig, er gwaethaf ein hymdrechion i ymgysylltu. Disgwyliwn i rai manylion gael eu cyhoeddi yn ystod yr adolygiad o wariant, sydd i'w gynnal, fel y bydd yn gwybod, fis cyn i'n cyllid UE ddechrau dod i ben.
Diolch am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol, ac fel y gwyddoch, cynhyrchodd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig adroddiad ddechrau'r mis diwethaf yn mynegi eu pryder ynghylch y diffyg manylion sy'n cael eu cyhoeddi ar gyfer y gronfa ffyniant gyffredin. Ac ers hynny, mae'r Bil marchnad fewnol wedi'i osod ac rydym wedi gweld arwyddion clir y gallai hwnnw fod yn gyfrwng i ddefnyddio arian o'r gronfa ffyniant gyffredin i ariannu prosiectau seilwaith, gan osgoi mynediad at Lywodraeth Cymru yn llwyr.
Nawr, mae llawer o sefydliadau ledled Cymru'n elwa o gyllid Ewropeaidd ac sydd â gweithwyr sy'n ddibynnol ar y cyllid hwnnw. Mae'r diffyg eglurder ar hyn o bryd ac ar y cam hwn yn creu ansicrwydd mawr ynghylch parhad y prosiectau a'r swyddi hynny. A wnewch chi annog Llywodraeth y DU nawr i gael trefn arni ei hun, i gyflwyno'r manylion, fel y gall ein cymunedau a'n pobl sy'n gweithio yn y cymunedau hynny gael mwy o sicrwydd ynghylch y cyfleoedd i'r prosiectau hynny yn y dyfodol?
Diolch i David Rees am y cwestiwn hwnnw, a chredaf ei fod yn iawn i ddweud bod y Bil marchnad fewnol yn amlwg yn ymgais i roi pwerau i Lywodraeth y DU allu darparu rhannau o'r gronfa ffyniant gyffredin, na fyddai'n gallu ei wneud fel arall. Caiff ei phwerau cymorth ariannol eu disgrifio fel pethau sydd yno i weithio gyda ni, ond mae'n amlwg eu bod yno i weithio o'n hamgylch, ac felly rhannaf ei bryder ynglŷn â hynny.
Beth bynnag fo barn rhywun ar wleidyddiaeth y sefyllfa, fel petai, mae'n amlwg nad yw'n dderbyniol, mor agos at ddiwedd y pwynt lle mae gennym sicrwydd o'n cyllid, nad ydym yn gwybod o hyd sut y mae pethau'n edrych ar gyfer y cyfnod sydd o'n blaenau. Bydd rhaglenni'n cael eu colli, bydd doniau yn ein gwahanol raglenni ac ymyriadau yn cael eu golli o ganlyniad i hynny, a hynny heb fod angen, ac ni fyddai wedi digwydd pe bai mwy o eglurder wedi bod yn gynharach a phe bai Llywodraeth y DU wedi bod yn gliriach yn gynt ynglŷn â'i hymrwymiad i'r addewidion y mae wedi'u gwneud yn y gorffennol.
Fel y bydd yn gwybod, rydym wedi arwain ar waith cyson a sylweddol yng Nghymru gyda rhanddeiliaid ledled Cymru i gynllunio fframwaith ar gyfer rhaglenni olynol. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd gwaith rhanddeiliaid ym mhob sector ym mhob rhan o Gymru yn cael y clod a'r pwysigrwydd y dylai ei gael gan Lywodraeth y DU wrth iddi fyfyrio ar hyn, oherwydd maent yn cynnig ffordd wirioneddol adeiladol o fwrw ymlaen â'r rhaglenni hynny yma yng Nghymru i'r dyfodol, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn ffurfiol i'r Aelodau yr wythnos nesaf, drwy ddatganiad ysgrifenedig, ar y cynnydd rydym wedi bod yn ei wneud mewn perthynas â buddsoddi rhanbarthol gyda'n rhanddeiliaid ledled Cymru.
Diolch, Lywydd. Weinidog, clywais eich ateb i David Rees yno, ac ymhellach, a gaf fi ofyn—? Yn amlwg, mae ein colegau addysg bellach yn pryderu am golli arian yr UE. Mae'r arian hwnnw wedi bod yn ffynhonnell bwysig o gyllid i gefnogi'r gwaith o ddarparu sgiliau, sy'n bwysig i ddyfodol pob un ohonom. Nawr, heb gyllid newydd, bydd yn fwyfwy anodd i golegau gefnogi economïau lleol. Felly, a gaf fi eich gwthio ymhellach a gofyn am unrhyw gynnydd mewn trafodaeth â Gweinidogion y DU ynghylch ariannu sgiliau a phrentisiaethau yn y dyfodol, yn enwedig yn y sector addysg bellach?
Wel, mae arnaf ofn y bydd yn rhaid i mi siomi Dai Lloyd ar hynny. Rydym yn aros am eglurder ynglŷn â'r ymrwymiadau sylfaenol hyn mewn perthynas â chronfeydd olynol yr UE, a gallaf glywed y rhwystredigaeth yn ei lais, a gallaf ei sicrhau fy mod yn ei rhannu'n llwyr. Mae'n gywir i ddweud mai ym maes prentisiaethau ac addysg bellach y cafwyd un o'r llwyddiannau arwyddocaol yn ein defnydd o gyllid yr Undeb Ewropeaidd, ac yn wir o ran darparu mynediad at Erasmus+ i ddysgwyr mewn lleoliadau addysg bellach ac yn y blaen. Rwyf wedi cyfarfod droeon â dysgwyr yn y gweithle sydd wedi manteisio'n llawn ar hynny. Rydym wedi bod yn dadlau'r achos gyda Llywodraeth y DU. Gobeithiwn glywed mwy cyn yr adolygiad o wariant, ac rwy'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr pan fydd hynny'n digwydd.
Ac yn olaf, cwestiwn 9—Neil Hamilton.