Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Diolch am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol, ac fel y gwyddoch, cynhyrchodd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig adroddiad ddechrau'r mis diwethaf yn mynegi eu pryder ynghylch y diffyg manylion sy'n cael eu cyhoeddi ar gyfer y gronfa ffyniant gyffredin. Ac ers hynny, mae'r Bil marchnad fewnol wedi'i osod ac rydym wedi gweld arwyddion clir y gallai hwnnw fod yn gyfrwng i ddefnyddio arian o'r gronfa ffyniant gyffredin i ariannu prosiectau seilwaith, gan osgoi mynediad at Lywodraeth Cymru yn llwyr.
Nawr, mae llawer o sefydliadau ledled Cymru'n elwa o gyllid Ewropeaidd ac sydd â gweithwyr sy'n ddibynnol ar y cyllid hwnnw. Mae'r diffyg eglurder ar hyn o bryd ac ar y cam hwn yn creu ansicrwydd mawr ynghylch parhad y prosiectau a'r swyddi hynny. A wnewch chi annog Llywodraeth y DU nawr i gael trefn arni ei hun, i gyflwyno'r manylion, fel y gall ein cymunedau a'n pobl sy'n gweithio yn y cymunedau hynny gael mwy o sicrwydd ynghylch y cyfleoedd i'r prosiectau hynny yn y dyfodol?