Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 11 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:03, 11 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, mae arnaf ofn y bydd yn rhaid i mi siomi Dai Lloyd ar hynny. Rydym yn aros am eglurder ynglŷn â'r ymrwymiadau sylfaenol hyn mewn perthynas â chronfeydd olynol yr UE, a gallaf glywed y rhwystredigaeth yn ei lais, a gallaf ei sicrhau fy mod yn ei rhannu'n llwyr. Mae'n gywir i ddweud mai ym maes prentisiaethau ac addysg bellach y cafwyd un o'r llwyddiannau arwyddocaol yn ein defnydd o gyllid yr Undeb Ewropeaidd, ac yn wir o ran darparu mynediad at Erasmus+ i ddysgwyr mewn lleoliadau addysg bellach ac yn y blaen. Rwyf wedi cyfarfod droeon â dysgwyr yn y gweithle sydd wedi manteisio'n llawn ar hynny. Rydym wedi bod yn dadlau'r achos gyda Llywodraeth y DU. Gobeithiwn glywed mwy cyn yr adolygiad o wariant, ac rwy'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr pan fydd hynny'n digwydd.