Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Diolch, Lywydd. Weinidog, clywais eich ateb i David Rees yno, ac ymhellach, a gaf fi ofyn—? Yn amlwg, mae ein colegau addysg bellach yn pryderu am golli arian yr UE. Mae'r arian hwnnw wedi bod yn ffynhonnell bwysig o gyllid i gefnogi'r gwaith o ddarparu sgiliau, sy'n bwysig i ddyfodol pob un ohonom. Nawr, heb gyllid newydd, bydd yn fwyfwy anodd i golegau gefnogi economïau lleol. Felly, a gaf fi eich gwthio ymhellach a gofyn am unrhyw gynnydd mewn trafodaeth â Gweinidogion y DU ynghylch ariannu sgiliau a phrentisiaethau yn y dyfodol, yn enwedig yn y sector addysg bellach?