Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Diolch am yr ateb yna. Dwi'n gweld beth rydych chi'n ei ddisgrifio fel tipyn bach llai o gydweithredu na fuasai'n ddelfrydol rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru, nid fy mod i'n eich beio chi yn y mater yna, Gweinidog. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod porthladdoedd Iwerddon wedi bod yn buddsoddi'n drwm mewn llwybrau gwahanol i'w llongau i gyrraedd y cyfandir, drwy osgoi porthladdoedd y Deyrnas Unedig, gan osgoi llefydd fel Caergybi. A allaf i ofyn felly, pa asesiad ydych chi fel Llywodraeth Cymru nawr wedi ei wneud ar effaith unrhyw ostyngiad yn y traffig drwy borthladdoedd Cymru?