Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn, os caf i ddweud, ac mae'r risg o arallgyfeirio masnach yn un lle mae lot o gonsyrn gyda ni fel Llywodraeth. Mae dau gwestiwn mawr ar hyn o bryd rŷn ni'n dal yn aros am eglurder ynglŷn â nhw, sy'n deillio'n rhannol o'r gweithgaredd ynglŷn â'r protocol yng Ngogledd Iwerddon. Hynny yw, y cwestiwn cyntaf yw nwyddau o Ogledd Iwerddon—maen nhw'n cael mynd i Loegr a'r Alban yn uniongyrchol, felly heb wirio. Ond os ydyn nhw'n dod trwy'r Weriniaeth, byddan nhw'n cael eu gwirio yn ein porthladdoedd ni yng Nghymru. Felly, mae risg yn fan yna o ran arallgyfeirio. A hefyd, ar nwyddau o'r Weriniaeth i Gymru, bydd checks fan yna, ond os ânt trwy Ogledd Iwerddon, mae'n debygol y bydd llai o checks, felly mae'r ddau gwestiwn hynny'n awgrymu bod y risg o arallgyfeirio yn risg go iawn. Rŷn ni'n dal i aros am eglurder, am ddadansoddiad o impact y rheini o'r Llywodraeth yn San Steffan, ac mae pwyllgor yn gweithio ar hyn o bryd i edrych ar yr impact ar fasnach. Rŷn ni'n dal i aros am ganlyniadau'r gwaith hynny.