Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Weinidog, mae'r newyddion am y brechlyn Pfizer yn addawol, ac rwy'n gobeithio y bydd yn cyflawni ei botensial. Fodd bynnag, bydd cryn amser cyn y gallwn sicrhau'r bron i 6 miliwn dos sydd eu hangen. Gan droi at ymarferoldeb cyflwyno'r rhaglen, os yw'r brechlyn hwn a brechlynnau eraill yn bodloni safonau diogelwch ac effeithiolrwydd, cafwyd adroddiadau yn y cyfryngau a chylchlythyrau meddygon teulu y bydd gwasanaethau meddygon teulu eraill yn cael eu gohirio er mwyn gwneud lle i'r rhaglen frechu. Weinidog, a wnewch chi sicrhau'r cyhoedd yng Nghymru na fydd hyn yn digwydd, ac na fydd gwasanaethau'n cael eu gohirio mewn lleoliadau gofal sylfaenol yng Nghymru? Diolch.