Part of the debate – Senedd Cymru am 6:37 pm ar 17 Tachwedd 2020.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad y prynhawn yma. Mae hon yn flwyddyn ddigynsail, wrth gwrs, a dwi'n sylweddoli'r pwysau sydd ar Weinidogion a swyddogion wrth ddelio efo materion cyllidol mewn amgylchiadau anodd tu hwnt. Gaf i hefyd ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiad nhw? Dwi'n barod iawn i ategu'r argymhellion sy'n cael eu gwneud gan y pwyllgor. Mae nifer ohonyn nhw yn rhai pwysig iawn, yn cynnwys yr angen am wella'r ffordd mae gwybodaeth yn cael ei rhannu o gwmpas y gyllideb, hynny ar amser lle mae'r ffaith bod y darlun yn newid mor sydyn ac mor sylweddol yn gallu ei gwneud hi'n anodd mesur beth sy'n mynd ymlaen weithiau, o ran dyraniad cyllidebau. Mae'r pwyllgor y gofyn am eglurder a dadansoddiad gwell ar nifer o feysydd gwariant hefyd o gyllid sydd wedi'i roi i awdurdodau lleol, i gyllid i gwmnïau trafnidiaeth, ac yn y blaen.
Ond mae yna hefyd anogaeth yma i'r Llywodraeth barhau i wthio am fwy o ryddid a hyblygrwydd cyllidol, a dwi, unwaith eto, fel dwi wedi'i wneud droeon o'r blaen, yn cynnig fy nghefnogaeth i'r Gweinidog yn fan hyn i fynd ar ôl y mater yma ymhellach efo Llywodraeth Prydain a'r Trysorlys. Mae hyn yn rhywbeth dwi a Phlaid Cymru wedi bod yn ei bwysleisio yn gyson achos ein bod ni'n credu y dylai gwlad normal gael y math yma o ryddid. Mae o'n rhywbeth y gwnes i gyfeirio ato fo'n gynharach heddiw yn fy ymateb i'r datganiad ar y model buddsoddi cydfuddiannol. Dwi ddim yn meddwl y byddai Cymru fel gwlad annibynnol, efo'r rhyddid sydd gan wlad annibynnol, angen defnyddio model cyllidol felly ar hyn o bryd oherwydd amgylchiadau mor ffafriol i fenthyg arian.
Ond yn ôl at y presennol a'r pandemig yma, mae cael mwy o hyblygrwydd o ran terfynu benthyca ac o ran defnyddio arian wrth gefn yn fwy pwysig nag erioed rŵan o ran y gallu i ymateb i'r pandemig ei hun, ond hefyd i gynllunio'r adferiad a'r buddsoddiad mawr fydd ei angen ar gyfer hynny yn y cyfnod sydd i ddod. A hefyd, wrth gwrs, mae'r diffyg hyblygrwydd yna'n cael ei adlewyrchu yn faint o arian heb ei ddynodi sydd wedi cael ei gynnwys yn yr ail gyllideb atodol yma.
Beth sydd gennym ni yn fan hyn ydy Llywodraeth sydd yn ansicr am ei chyllidebau yn y cyfnod sydd i ddod, ddim efo'r hyblygrwydd i wneud penderfyniadau ei hun ac yn gorfod cadw arian sylweddol wrth gefn, a tasai'r Llywodraeth yn gwybod bod ganddyn nhw'r gallu i fenthyg, i gario arian ymlaen o flwyddyn i flwyddyn ac ati, mi fyddan nhw'n gallu cymryd agwedd wahanol, dwi'n meddwl, at arian wrth gefn.
Ambell i bwynt penodol ynglŷn â beth sydd yma neu beth sydd ddim yma; mae yna'n dal sectorau o fusnes sy'n methu cael cefnogaeth, efo pwysau arbennig ar fusnesau sy'n methu gweithredu o gwbl, sy'n dal â chostau sefydlog sylweddol. Mi fyddwn i'n annog defnyddio cyllidebau i dargedu'n ofalus iawn y cwmnïau hynny'n sy'n disgyn drwy'r rhwyd, yn cynnwys nifer o gwmnïau yn y maes lletygarwch, er enghraifft, sydd â gwerth ardrethiannol mawr, sy'n cael eu hystyried, am wn i, i fod yn gwmnïau mawr, ond a dweud y gwir, cwmnïau cymharol fach, lleol, ydyn nhw, sydd wedi methu cael cefnogaeth hyd yn hyn.
At faterion sydd ddim yn ymwneud â COVID: does yna ddim newid yn y dyraniad ar—wel, na, mae hwn yn un COVID, a dweud y gwir—does yna ddim newid yn y dyraniad ar gyfer y rhaglen tlodi tanwydd er gwaetha'r ffaith y bydd pobl yn dal i ynysu gartref efo'r potensial o gynyddu biliau tanwydd dros y gaeaf. Ydy hyn yn rhywbeth mae'r Llywodraeth wedi ei ystyried?
Ac un sydd ddim yn ymwneud â COVID: does yna chwaith ddim cyllid ychwanegol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer rheolaeth llifogydd yn benodol. Rydyn ni wedi dioddef llifogydd yn fy etholaeth i yn y blynyddoedd diweddar. Mae yna sawl rhan o Gymru wedi dioddef yn drwm iawn yn y flwyddyn yma, yn cynnwys Rhondda Cynon Taf, a Conwy hefyd. Oes yna fwriad i gynyddu'r gwariant ar hynny mewn blwyddyn mor heriol? Dwi'n meddwl mae pobl angen gwybod bod y Llywodraeth yn gwneud popeth i drio atal pwysau ychwanegol ar eu cymunedau nhw allai ddod yn sgil methiant i reoli llifogydd.