Part of the debate – Senedd Cymru am 7:48 pm ar 17 Tachwedd 2020.
Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, hoffwn i ddiolch hefyd i Aelodau'r grŵp cynllunio etholiadau am eu gwaith hanfodol ar y mater pwysig iawn hwn. O'r adroddiad, mae'n amlwg bod consensws ar amrywiaeth o faterion. Yn hollbwysig, mae cytundeb y dylai'r etholiadau gael eu cynnal ar 6 Mai y flwyddyn nesaf. Nid oes rheswm pam na all yr etholiadau gael eu cynnal ar 6 Mai o ystyried bod Sbaen, Gwlad Pwyl, Ffrainc a De Korea wedi cynnal rhai etholiadau'n ddiogel yn ystod y pandemig hwn. Yn rhai o'r ardaloedd hyn sydd wedi cynnal etholiadau, ni wnaeth cyfraddau trosglwyddo'r feirws wedi cynyddu, ond, wrth gwrs, rwy'n derbyn bod angen i ni, yma yng Nghymru, roi mesurau ar waith i sicrhau bod yr etholiadau hyn yn ddiogel.
Er y bu dau etholiad cyffredinol yn y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bydd wedi bod yn bum mlynedd ers i bleidleiswyr allu mynegi eu barn ar Lywodraeth Cymru a ni fel eu cynrychiolwyr. Felly, mae'n hanfodol bod camau'n cael eu cymryd i sicrhau y gall pleidleisio fynd rhagddo'n ddiogel y flwyddyn nesaf, a byddwn i'n ddiolchgar os gallai'r Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni efallai yn ei ymateb i'r ddadl hon ynghylch y camau y mae ei swyddogion yn eu hystyried ar hyn o bryd. Byddai hefyd yn ddefnyddiol cael gwybodaeth fanwl o ran sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu gweithredu rhai o'r meysydd consensws yn yr adroddiad, a sut y mae'n bwriadu gweithio gydag eraill i gyflawni rhai o'r cynigion yn yr adroddiad.
Mae'r adroddiad yn cyfeirio at annog pobl a oedd yn gwarchod eu hunain i gofrestru i bleidleisio drwy'r bost, sy'n gwneud synnwyr llwyr. Efallai y gall y Prif Weinidog gadarnhau yn ei ateb pryd y bydd y rhaglen yn dechrau annog y rheini sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain yn y gorffennol i gofrestru ar gyfer pleidlais drwy'r post a phwy a fydd yn gyfrifol am hyn, a faint o bobl ym mhob ardal a allai fod yn debygol o gofrestru. Fel yr awgrymodd y Ceidwadwyr Cymreig yn ein tystiolaeth ysgrifenedig i'r grŵp cynllunio, er ein bod yn croesawu rhywfaint o'r hyblygrwydd yn yr adroddiad ynghylch pleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy, mae'n hanfodol bod y dulliau cywir o ddiogelu ar waith i sicrhau bod gan bleidleiswyr a'r rhai sy'n cymryd rhan yn yr etholiad ffydd yn y broses. Ac felly, rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn manteisio ar y cyfle i'w gwneud yn glir nad yw Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo unrhyw gynlluniau i ymestyn pleidleisio drwy ddirprwy i alluogi aelod nad yw'n aelod o'r teulu i weithredu fel ddirprwy i fwy na dau berson, hyd yn oed os yw aelwyd gyfan yn hunan-ynysu, fel na fydd y system yn cael ei cham-drin o bosibl.
Wrth gwrs, mae ail hanner yr adroddiad yn canolbwyntio ar y meysydd lle na allai'r grŵp cynllunio ddod i gonsensws. Mae'r meysydd hyn yn hanfodol i gynnal etholiadau ac i sicrhau eglurder i bleidleiswyr. Yn gyntaf, rydym ni wedi'i gwneud yn glir iawn na ddylai deddfwriaeth gael ei chyflwyno yn y lle hwn i alluogi newid dyddiad yr etholiad, oherwydd ein barn ni yw y dylid cynnal yr etholiad ar 6 Mai. Rydym ni i gyd yn ymwybodol nad yw'r ganran sy'n pleidleisio yn etholiadau seneddol Cymru wedi bod yn uwch na 46 y cant yn ystod oes y lle hwn. Os ydym ni eisiau gweithio fel pleidiau gwleidyddol i wella cyfranogiad a'r nifer sy'n pleidleisio, yna mae angen i ni wybod y rheolau nawr er mwyn rhoi sicrwydd i bobl Cymru wrth symud ymlaen. Mae hynny'n golygu peidio â chaniatáu dryswch drwy drafod dyddiad yr etholiad ymhellach na chaniatáu newid dyddiad funud olaf. Drwy gael dyddiad penodol ar gyfer yr etholiad ar 6 Mai, gallwn ni sicrhau y gall pob agwedd ar broses yr etholiad fod mor ddiogel â phosibl. Mae angen y warant honno ar bobl Cymru, felly rwy'n bryderus iawn bod y Prif Weinidog yn awr yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i ohirio etholiadau'r flwyddyn nesaf o bosibl. Ni ddylai swyddogion Llywodraeth Cymru wastraffu adnoddau'n ddi-angen yn edrych ar ddeddfwriaeth, ond yn hytrach, dylen nhw ganolbwyntio eu hymdrechion ar ddarparu proses etholiad ddiogel fis Mai nesaf. Fel y dywedais i'n gynharach, mae gwledydd eraill wedi llwyddo i gynnal etholiadau o dan yr amgylchiadau heriol hyn, felly nid wyf i'n gweld pam na allwn ni yma yng Nghymru gynnal yr etholiadau hynny y flwyddyn nesaf.
Nawr, ar wahân i newid dyddiad yr etholiad, archwiliodd y grŵp cynllunio opsiynau o ran newid yr amseroedd a'r dyddiau y gall pobl bleidleisio arnyn nhw. Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cytuno â mi, mae'n annhebygol iawn y bydd pobl yn pleidleisio am bump neu chwech yn y bore na mor hwyr ag 11 neu 12 y nos. Bydd dryswch pellach hefyd os yw'r dyddiau y gall pobl bleidleisio arnyn nhw wedi'u gwahanu mewn gwirionedd. Rwy'n deall yr awydd i gael y bobl fwyaf agored i niwed o COVID-19, fel pobl hŷn a'r rhai â chyflyrau iechyd sylfaenol, bleidleisio ar un diwrnod a phawb arall ar ddiwrnod arall, a gallai hynny helpu i ddiogelu'r rhai sydd fwyaf agored i'r feirws, ond bydd effaith fawr hefyd ar y rhai sy'n cymryd rhan yn yr etholiad yn ogystal.
Bydd agor gorsafoedd pleidleisio ar sawl diwrnod hefyd yn cael effaith andwyol ar y gwasanaethau y mae awdurdodau lleol yn eu darparu, a fydd yn gorfod dod o hyd i staff a thalu iddyn nhw reoli'r gorsafoedd pleidleisio am gyfnod estynedig. A bydd cwestiynau hefyd ynghylch diogelwch y pleidleisiau, er enghraifft, ble bydd blychau pleidleisio'n cael eu storio dros nos rhwng diwrnodau pleidleisio ac yna'r cyfrif, a phwy fydd yn cael gweld trosglwyddo'r blychau hynny? Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn mynd i'r afael â'r pryderon dilys hyn drwy ymrwymo i sicrhau y bydd y pleidleisio'n digwydd ar 6 Mai rhwng 7 a.m a 10 p.m? Dirprwy Lywydd, gyda hynny, a gaf i ddiolch eto i aelodau'r grŵp cynllunio etholiadau am eu gwaith ar yr adroddiad hwn? Rwy'n edrych ymlaen at weithio'n adeiladol gyda phob plaid ar y mater hwn dros yr wythnosau nesaf a'r misoedd nesaf.