Part of the debate – Senedd Cymru am 7:53 pm ar 17 Tachwedd 2020.
Yn y lle cyntaf, hoffwn i ddiolch i aelodau'r grŵp cynllunio etholiadau am eu gwaith, ac roedd fy mhlaid i'n hapus iawn i gymryd rhan yn y gwaith hwnnw. Er gwaethaf rhai o'r penawdau sydd wedi bod o gwmpas y grŵp yma, mae'n bwysig cofio bod gwaith y grŵp a nifer o argymhellion yr adroddiad, sydd eisoes wedi ei gyhoeddi, yn canolbwyntio'n bennaf ar y trefniadau y dylid eu rhoi ar waith i sicrhau y gall yr etholiad fynd yn ei flaen, a hynny'n ddiogel.
Mae'n rhaid dweud, mae'n anodd rhagweld sefyllfa lle byddai'n rhaid gohirio etholiadau'r Senedd erbyn hyn. Mae etholiadau wedi parhau o amgylch y byd yn ystod y misoedd diwethaf fel dŷn ni eisoes wedi clywed, o Belarus i Wlad y Basg, o Serbia i Singapore, ac wrth gwrs yn America yn fwyaf diweddar, lle atgoffwyd ni mewn modd pwerus iawn o bwysigrwydd etholiadau rhydd, a grym y bobl i ddefnyddio'u llais a bwrw'u pleidlais, fel y gwnaeth pobl yr Unol Daleithiau drwy ddewis cyfeiriad newydd yn nhywyllwch y pandemig. Er hynny, fel mae profiad y misoedd diwethaf wedi dangos i ni allwn ni ddim cymryd dim byd yn ganiataol.
Felly, mae'n rhesymol bod gennym ni'r gallu yng Nghymru i ymateb i bob sefyllfa all ein hwynebu, waeth pa mor fychan yw'r tebygolrwydd o hynny bellach. Mae'r gallu hwnnw eisoes gan Weinidogion San Steffan, ac fe'i defnyddiwyd, wrth gwrs, yn achos etholiadau lleol yn Lloegr ac etholiadau comisiynwyr heddlu Cymru oedd i fod i fynd rhagddynt ym mis Mai eleni. Ac ar y nodyn hynny, wrth gwrs, mae'n siomedig, ond nad yn annisgwyl efallai, i weld bod Llywodraeth Prydain wedi dod at y mater yma mewn modd anghydweithredol, gyda'r Gweinidog Chloe Smith yn ysgrifennu at bob swyddog canlyniadau yng Nghymru tra oedd y grŵp cynllunio yma yn dal i gyfarfod—gyda'r Blaid Geidwadol yn rhan ohono fe—i ddatgan y byddai etholiadau comisiynwyr heddlu yng Nghymru yn mynd yn eu blaenau fel y cynlluniwyd, doed a ddelo, heb lawn gydnabod, mae'n ymddangos, arwyddocâd y ffaith mai etholiad cyffredinol Cymreig sydd gennym ni wedi'i gynllunio yng Nghymru y flwyddyn nesaf, gydag etholiadau'r comisiynwyr heddlu yn digwydd bod yn syrthio ar yr un pryd oherwydd y gohirio eleni. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Prydain mewn meddylfryd cwbl wahanol. Yn sgil cyndynrwydd Llywodraeth Prydain i ystyried unrhyw fath o newid i etholiadau'r comisiynwyr heddlu, deallaf fod hynny wedi cyfyngu ar yr opsiynau posib roedd y grŵp yn eu hystyried ar gyfer cyflwyno canolfannau pleidleisio cynnar, gan ymestyn, fel y clywsom ni, nifer y diwrnodau y bydd pleidleisio, i hwyluso pleidleisio i grwpiau bregus—syniad roedd y gweinyddwyr etholiad yng Nghymru yn llwyr gefnogol iddo. Beth yw bwriad Llywodraeth Cymru neu farn Llywodraeth Cymru o ran symud y syniad yma yn ei flaen yn wyneb gwrthwynebiad Llywodraeth Prydain o ran efelychu'r un peth gyda'r etholiadau comisiynwyr heddlu?
Hoffwn i glywed, yn yr un modd, gan y Prif Weinidog, am yr effaith bosib o anghydweld rhwng Llywodraethau Cymru a Phrydain ar bleidleisiau procsi. Yn ymarferol, rwy'n credu bydd pobl Cymru am inni sicrhau cymaint o gysondeb rhwng y ddau etholiad, ac eu bod mor rhwydd â phosib i bobl gymryd rhan ynddynt, dim ots lle mae'r grym dros yr etholfraint yn gorwedd ar ddiwedd y dydd. Byddai'n rhyfedd iawn, er enghraifft, pe bai'r procsi'n gallu gweithredu ar ran pedwar neu bump o bobl yn etholiadau'r Senedd, ond dim ond ar gyfer dau o bobl yn etholiadau'r comisiynwyr heddlu.
I gloi, mae'r Prif Weinidog yn sôn am y posibilrwydd o ddeddfwriaeth ym mis Ionawr i'r Senedd, a fyddai'n ymestyn gallu'r Llywydd i ohirio dyddiad etholiadau'r Senedd o'r mis presennol i hyd at chwe mis. Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyflwyno deddfwriaeth debyg gerbron Senedd yr Alban. Heddiw, mae'n briodol mai'r Llywydd fyddai'n parhau i ddal y grym yma, gan adlewyrchu natur amhleidiol y swyddogaeth, ond mae'n bwysig bod y Senedd yn cael cyfle i graffu ar ddeddfwriaeth arfaethedig yn llawn, felly gorau po gynted i'w chyflwyno i'r Senedd mewn ffurf drafft. Mae deddfwriaeth yr Alban yn cynnwys darpariaeth ar gyfer pleidleisiau post yn unig ar gyfer ailgynnal etholiad petai'r etholiad ym mis Mai yn cael ei ohirio. Nid oedd adroddiad y grŵp yng Nghymru yn argymell hyn, felly gall y Prif Weinidog gadarnhau a fydd darpariaeth Mesur drafft Llywodraeth Cymru ynghylch pleidleisiau post? Byddwn i'n cytuno gyda'r awgrym y dylid rhoi amod dwy ran o dair i basio unrhyw newid, gan ddiogelu'r egwyddor y dylai fod yna gefnogaeth eang y tu hwnt i'r blaid lywodraethol i wneud unrhyw newid i drefniadau etholiadol.