Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 17 Tachwedd 2020.
Prif Weinidog, roedd llawer o fusnesau yng Nghymru yn teimlo bod rhaglenni cronfeydd strwythurol yr UE yn y gorffennol yn cael ei dal yn ôl gan lawer gormod o reolau a phrosesau rhy fiwrocrataidd ac, o ganlyniad, bod rhai rhaglenni wedi methu â chyflawni eu nodau datganedig, sef cynyddu ffyniant economaidd Cymru a'n pobl. Felly, Prif Weinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch sicrhau bod rhaglenni cronfeydd strwythurol newydd yn hyblyg ac yn ymatebol i anghenion busnesau Cymru a phoblogaeth Cymru?