Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 17 Tachwedd 2020.
Llywydd, rwy'n hapus iawn bob amser i ddysgu o wersi mewn mannau eraill. Rhan o'r fantais enfawr o fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd yw ei fod wedi caniatáu i ni ddysgu o brofiad aelod-wladwriaethau eraill yn y ffordd y maen nhw wedi defnyddio cyllid Ewropeaidd, fel y mae hwythau, yn eu tro, wedi dysgu gan Gymru am rai o'r ffyrdd yr ydym ni wedi gwneud pethau yma. A lle ceir enghreifftiau da mewn mannau eraill y tu mewn i'r Deyrnas Unedig, yna mae Llywodraeth Cymru bob amser yn agored i ddysgu o brofiadau a all ein helpu i wneud y mwyaf o'r cyllid sydd gennym ni. Y broblem yw nad ydym ni'n gwybod faint fydd y cyllid ac nad ydym ni'n gwybod sut y mae am gael ei ddefnyddio.