Coronafeirws yn y Rhondda

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 17 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:05, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, bu lefel uchel iawn o haint mewn llawer o ardaloedd yn hen faes glo y de, fel y Rhondda, a bydd y boblogaeth yno yn sâl am gryn amser i ddod gyda COVID hir a phroblemau cysylltiedig eraill wedyn. Rwy'n arbennig o bryderus ynghylch sut y mae hyn yn mynd i gael ei reoli. Pa wasanaethau iechyd a chlinigau fydd ar gael i bobl, yn enwedig os bydd yn lleihau eu gallu i gadw swydd neu i chwilio am swydd, o gofio'r anweithgarwch economaidd y mae ardaloedd fel y Rhondda yn ei ddioddef ar hyn o bryd?