3. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Tata Steel

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 17 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:11, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ar ddydd Gwener 13 Tachwedd, fe gyhoeddodd Tata Steel ei fod wedi cychwyn trafodaethau gyda SSAB Sweden ynghylch caffael gweithfeydd Tata Steel yn yr Iseldiroedd gan gynnwys, wrth gwrs, waith dur IJmuiden. Hefyd, mae'r cwmni wedi cychwyn proses i wahanu busnes Tata Steel yn yr Iseldiroedd a busnes yn y DU yn y dyfodol. Yn hollbwysig, fe eglurodd Tata Steel hefyd ei fod am adolygu'r holl ddewisiadau i wneud y busnes yn hunangynhaliol heb fod angen unrhyw gymorth ariannol oddi wrth Tata Steel India yn y dyfodol. Fe fydd yr ansicrwydd ynghylch beth a olygir gan hyn yn y pen draw i'r busnes yn y DU yn siŵr o fod yn achos pryder mawr i'r 8,000 o weithwyr sydd gan Tata Steel ledled y DU yn ogystal â'u teuluoedd nhw, y cymunedau lleol a'r  niferoedd uchel sy'n gysylltiedig â chadwyn gyflenwi'r cwmni.

Fe siaradodd y Prif Weinidog a minnau ddydd Gwener gyda Dr Henrik Adam, prif swyddog gweithredol Tata Steel Europe. Fe eglurodd Dr Adam fod Tata Steel yn benderfynol o ddiogelu dyfodol sy'n gynaliadwy i'w weithrediadau yma yn y DU a diogelu'r gweithlu. Fe eglurodd Dr Adam hefyd fod creu cwmni ar gyfer y DU yn unig yn dynodi trobwynt tyngedfennol i'r busnes.

Nawr, bydd raid inni fanteisio ar y cyfle hwn i greu cartref sy'n gynaliadwy, diogel a llwyddiannus i Tata Steel yma yng Nghymru, un sy'n cyd-fynd â'n dyheadau ni o ran carbon isel, un sy'n wirioneddol gymwys i'r dyfodol ac yn sicrhau ein bod ni'n cynnal ein sector dur ni sy'n gynhenid yma yng Nghymru a'r DU ar gyfer yr hirdymor. Mae cefnogaeth sylweddol yn angenrheidiol, a buddsoddi yn arbennig, ond rydym ni'n glir y gall y diwydiant dur yng Nghymru, gyda'r amodau priodol yn y farchnad fewnol, fod â dyfodol cynaliadwy a llwyddiannus iddo. 

Rwy'n ymwybodol fod pryderon penodol ynghylch y gwahanu oddi wrth waith Tata Steel yn IJmuiden, a fydd yn golygu y bydd Tata Steel UK yn colli'r defnydd a wneir o'r gwaith ymchwil a datblygu sy'n digwydd yn yr Iseldiroedd. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld buddsoddiad sylweddol yn ein gallu o ran ymchwil a datblygu yma yng Nghymru sy'n gysylltiedig â'r sector dur. Mae mentrau fel y Sefydliad Dur a Metelau, SUSTAIN, FLEXIS ac ASTUTE yn golygu y gallwn adeiladu ar y wybodaeth arbenigol hon i ddatblygu ein galluoedd ymchwil a datblygu domestig ni ymhellach.

Mae pandemig COVID wedi codi cwestiynau pwysig o ran ein cydnerthedd economaidd, ac mae'n bryd nawr i sicrhau ein bod ni'n amddiffyn ein gallu i gynhyrchu dur yn yr hirdymor. Rydym wedi gweld pa mor bwysig yw bod gennym gadwyni gweithgynhyrchu a chyflenwi sy'n gryf, yn gydnerth ac yn lleol. Mae angen i'n sector dur ni fod wrth wraidd ein dyfodol carbon isel ni o ran adeiladau sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, o ran ynni adnewyddadwy, cerbydau trydan carbon isel ac, wrth gwrs, adeiladu. Hefyd, rhaid peidio anghofio y gellir ailgylchu dur yn ddiddiwedd.

Mae'n hanfodol felly bod Llywodraeth y DU yn ymrwymo i gefnogaeth wirioneddol a sylweddol i Tata Steel a'r sector fel mater o frys—cymorth a fydd yn gwneud gwahaniaeth parhaol i'r sector ac yn sicrhau ei ddyfodol yn wirioneddol, nid papuro dros y craciau yn unig. Ac nid galwad newydd yw hon; mae'r sector wedi bod yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu mewn meysydd allweddol ers blynyddoedd lawer, gan gynnwys ynghylch prisiau ynni, ac i ddarparu pecyn effeithiol o gymorth o'r math a gafodd sectorau eraill drwy gytundebau penodol i'w sector nhw.

Felly, fe siaradais ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddydd Gwener, ac fe godais i'r mater ddoe gyda Gweinidog Busnes Llywodraeth y DU, Nadhim Zahawi AS. Rwyf wedi gofyn am gyfarfod hefyd gyda'r Ysgrifennydd Gwladol Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Mae Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU eisoes ynglŷn â phwysigrwydd strategol Tata Steel, ac mae'n gobeithio cael trafodaeth gynnar gyda Phrif Weinidog y DU i drafod ceisio dyfodol sy'n gynaliadwy i'r cwmni. Gan Lywodraeth y DU yn unig y mae'r gallu i ddarparu'r raddfa o gymorth sy'n ofynnol bellach. Fe fyddai cymorth rhagweithiol a chyflym yn gamau pendant ar yr agenda lefelu am i fyny, ac yn dangos bod y DU yn gweithio dros Gymru yn y cyfnod tyngedfennol hwn.

Ar ben hynny, yn fy marn i, Dirprwy Lywydd, mae'n bwysig pwysleisio y byddai Brexit 'heb gytundeb' yn niweidiol iawn i sector dur y DU, ac felly mae'n hanfodol bod y DU yn sicrhau cytundeb masnach cynhwysfawr gyda'r UE gyda mynediad di-dariff i farchnadoedd yr UE. Y cytundeb masnach cynhwysfawr hwnnw gyda'r UE yw blaenoriaeth fwyaf unrhyw gytundeb masnach o ran cynhyrchwyr dur y DU. Yr UE yw'r farchnad allforio fwyaf o bell ffordd ar gyfer cwmnïau dur y DU a'u cwsmeriaid nhw yn y DU yn y sectorau gweithgynhyrchu. Mae'n hanfodol nad yw'r diwydiant dur yng Nghymru dan anfantais oherwydd rhwystrau masnach diangen fel tollau ychwanegol, tariffau, cwotâu neu rwystrau technegol i fasnachu.

Dirprwy Lywydd, mae gwariant sylweddol Llywodraeth y DU ar feysydd fel seilwaith yn golygu hefyd fod yna botensial enfawr o ran cyfleoedd i wneuthurwyr dur y DU. Byddai hynny'n helpu i ddiogelu swyddi mewn cwmnïau dur a'u cadwyni cyflenwi nhw, yn cadw gwerth ychwanegol gros yn ein heconomi ni, ac o bosibl yn lleihau allyriadau carbon drwy fyrhau'r cadwyni cyflenwi hyn. Fe fyddaf i'n ceisio cael trafodaethau pellach gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU a'r cwmni dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf i gydweithio er mwyn sicrhau dyfodol gweithfeydd Tata Steel yn y DU ac yma yng Nghymru, ac fe allaf i sicrhau'r Aelodau y byddaf i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw ynglŷn â'r trafodaethau hynny.