3. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Tata Steel

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 17 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:29, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiynau hi? Wrth gwrs, mae Helen Mary Jones yn iawn i dynnu sylw at y ffaith nad am Bort Talbot yn unig yr ydym ni'n sôn yma, na'r miloedd o weithwyr ym Mhort Talbot, ond am y gweithrediadau eraill sydd gan Tata Steel ledled Cymru hefyd, sy'n cyflogi niferoedd enfawr o bobl sy'n cael eu talu'n dda iawn. Yn wir, mae'r sector dur yn y Deyrnas Unedig yn talu cyflog cyfartalog o £36,000. Ac, o gofio bod llawer o weithfeydd dur yn y DU mewn ardaloedd y mae angen eu codi nhw i lefel uwch, fe fyddai colli unrhyw un o'r swyddi hyn yn y cymunedau hyn yn niweidiol iawn, a dyna pam, yn fy marn i, y mae Llywodraeth y DU yn ymwybodol iawn o'i chyfrifoldebau o ran cefnogi Tata. Yr arwyddion a gawsom ni oddi wrth Lywodraeth y DU, ac oddi wrth Tata, yw bod y trafodaethau yn digwydd, ac iddyn nhw fod yn gadarnhaol, ac y gallai canlyniad fod ger ein bron ni'n fuan. Ond, yn amlwg, mae pob diwrnod a gollir yn cynyddu'r pryder o fewn y gweithlu, ac felly, mae'n rhaid bwrw ymlaen â'r trafodaethau hynny mor gyflym â phosibl. Ac mae'n hynod bwysig, fel yr wyf i wedi crybwyll, o ran agenda lefelu ar i fyny, o ystyried bod gweithfeydd Tata Steel mewn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn y Deyrnas Unedig ac mae hynny'n gofyn am ymyrraeth uniongyrchol gan y wladwriaeth i'w galluogi nhw i werthfawrogi lefel uwch o ffyniant.

Nawr, mae Helen Mary Jones yn codi nifer o gwestiynau am y technolegau a ddefnyddir a'r modelau o berchnogaeth y gellid eu hystyried. Nid wyf i heddiw am fynegi barn ar y posibilrwydd o ddefnyddio ffwrnais hydrogen neu ffwrnais arc trydan, oherwydd, ar hyn o bryd, rydym ni'n canolbwyntio ar sicrhau bod Tata Steel yn cael y cyllid angenrheidiol oddi wrth Lywodraeth y DU mewn cytundeb, at ddiben cyffredin, i drosglwyddo'r safleoedd i sefyllfa o fod yn gystadleuol yn fyd-eang. A gadewch i mi sicrhau'r Aelodau mai Tata Steel sy'n cyflogi'r gweithlu dur mwyaf medrus, y gweithlu dur gorau yn Ewrop, os nad yn y byd. O ystyried yr offer a'r buddsoddiad priodol, fe all gweithrediadau Tata Steel yn y DU fod yn fwy nag unrhyw gyfleuster arall drwy'r byd. Felly, fe all Llywodraeth y DU fod yn ysgogydd i'r sector hynod bwysig hwn fod yr un gorau yn y byd.

Nawr, yn ystod fy nghyfnod i yn y swydd hon, rwyf wedi gweithio gyda phedwar Ysgrifennydd Gwladol gwahanol yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ac mae pob un ohonyn nhw wedi rhoi sicrwydd i mi eu bod nhw'n awyddus i weld y sector dur yn cael ei godi i sefyllfa lle mae'n gystadleuol iawn, a lle bod yna ddyfodol cryf a chynaliadwy iddo. Fe allai'r pedwerydd Ysgrifennydd Gwladol yr wyf wedi bod yn gweithio gydag ef, Alok Sharma, fod yr un a fydd yn cyflawni'r gorchwyl. Ac mae hynny'n gwbl hanfodol er budd y gweithwyr, nid yn unig y rhai a gyflogir yn uniongyrchol gan Tata, ond yn y gadwyn gyflenwi hefyd.

Nawr, wrth grybwyll gwladoli Tata, nid wyf i o'r farn mai dyna'r ateb i'r cwestiwn a gaiff ei ofyn i ni ar hyn o bryd. Y cwestiwn cyfredol yw: sut y gall gweithrediadau Tata bontio yng nghyd-destun ein dyheadau ni o ran sero net? Sut all gweithrediadau Tata Steel weithio mewn ffordd sy'n gystadleuol o ystyried costau anghymesur ynni o ran y model busnes? A phe byddech chi'n gwladoli'r gweithfeydd neu beidio, fe fyddech chi'n wynebu'r costau hynny o hyd o ran ynni, na all neb ond Llywodraeth y DU wneud rhywbeth yn eu cylch nhw, a'r angen i ddatgarboneiddio yn ogystal â hynny. Ac, felly, mewn gwirionedd, mae'r model perchnogaeth yn ddadl, sy'n ddiddorol iawn i ni—ac rwyf i newydd wladoli'r rheilffyrdd yn ddiweddar—ond gallaf ddweud nad yw'n berthnasol i'r her sy'n ein hwynebu ni ar hyn o bryd, y mae dur yn ei hwynebu ar hyn o bryd. Yr her fawr sy'n ein hwynebu ni nawr yw sicrhau bod y newid yn ddiogel ac y gellir ei gyflwyno mewn ffordd sy'n gwarantu'r nifer fwyaf posibl o swyddi, yn dibynnu ar fewnforion oddi wrth gynhyrchwyr eraill sy'n llygru'r blaned, ond i ni fod â chyfnod pontio diogel ar waith i ddiogelu swyddi, a sicrhau y gallwn ni, mewn ffordd ddiogel, fodloni ein huchelgeisiau o ran sero net.