Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 17 Tachwedd 2020.
Fe hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac am y briff a roddodd ef i'r gwrthbleidiau ddydd Gwener. Rwy'n ategu ei holl sylwadau am bwysigrwydd enfawr y diwydiant dur i Gymru. Rydym ni'n tueddu, am resymau amlwg—oherwydd nifer y swyddi—i ganolbwyntio ar Bort Talbot, ond fel y dywedodd y Gweinidog, mae ei arwyddocâd yn llawer ehangach. Mae'r bobl a gyflogir yn ffatri Trostre yn eithriadol o bwysig yn Llanelli, sy'n rhan o'r rhanbarth yr wyf i'n ei gynrychioli.
Nawr, yn ei ddatganiad mae'r Gweinidog yn canolbwyntio llawer ar swyddogaeth Llywodraeth y DU ac mae'n adrodd yn ôl ar y trafodaethau a gafodd, ac mae hynny i gyd yn bwysig, mae'n amlwg. Rwy'n deall yr hyn a ddywedodd am yr angen i Lywodraeth y DU ddod i'r adwy ac ymrwymo i gefnogaeth wirioneddol ac arwyddocaol i Tata. Ond rwyf am ofyn iddo y prynhawn yma: beth yw ei gynllun ef os na fyddan nhw'n barod i wneud hynny? Mae ein profiad ni'n awgrymu na ellir dibynnu ar Lywodraeth y DU. Os ydym ni'n ystyried y profiad diweddar o ran ffyrlo, lle nad oedd y cymorth hwnnw ar gael pan oedd ei angen ar gymunedau Cymru, ond roedd ar gael cyn gynted ag yr oedd ei angen ar Swydd Surrey, sut y gallwn ni ddibynnu ar Lywodraeth y DU i wneud y peth iawn yn hyn o beth? Beth os bydd yr amodau, fel yr adroddwyd—yr amodau hynny y mae Llywodraeth y DU yn eu rhoi ar y cymorth hwnnw—yn arwain at ddiswyddiadau gwirioneddol sylweddol? Mae'n rhaid imi ofyn iddo: ai ei ddealltwriaeth ef yw bod cefnogaeth Llywodraeth y DU, fel yr adroddwyd eto, yn debygol o fod yn amodol ar ddisodli ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot gan ffwrneisi arc trydan?
Rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd y Gweinidog am ddatgarboneiddio, ond rwy'n gobeithio y byddai ef yn cytuno â minnau nad hon yw'r ffordd i gyflawni hynny. Gan ystyried yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am y cynnydd tebygol yn y galw am ddur yng Nghymru a ledled y DU, a yw ef yn cytuno â mi na ddylem ruthro i ddatgarboneiddio ein diwydiant dur yn y fath fodd sy'n golygu bod yn rhaid inni gynyddu mewnforion dur yn aruthrol, gan allforio ein hôl troed carbon ni, mewn gwirionedd, yn hytrach nac ymdrin ag ef gan ddefnyddio technolegau newydd a gwneud ein diwydiant dur ni'n gynaliadwy gan ddefnyddio technolegau hydrogen sy'n cael eu datblygu, er enghraifft? Nawr, os nad oes perygl o hyn, yr hyn yr adroddwyd amdano, siawns ei bod er budd mwyaf y cwmni o ran hyder cwsmeriaid i hynny gael ei wadu, yn gadarn ac yn derfynol, ac os oes yna berygl, yna siawns nad oes angen inni drafod hynny ar goedd ynghyd â'r goblygiadau posibl.
Mae'r Gweinidog yn cyfeirio at adolygiad Tata o'r holl ddewisiadau i sicrhau bod y busnes yn hunangynhaliol heb fod unrhyw angen am gymorth ariannol gan Tata yn India yn y dyfodol, ac rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn deall pam mae hynny'n digwydd. Rwy'n deall yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog wrth Adam Price ynglŷn â'r ffaith fod Llywodraeth Cymru wasanaeth i Lywodraeth y DU a'r cwmni ar hyn o bryd. Ond a yw'r Gweinidog yn derbyn ei bod hi'n beth peryglus i ddibynnu ar hyn ar ei ben ei hun fel strategaeth? Oni ddylai Llywodraeth Cymru ac yntau, ar yr un pryd, fod yn archwilio modelau eraill a fyddai'n galluogi mynd â pherchnogaeth a rheolaeth y cwmni yn ôl i ddwylo Cymru pe byddai angen hynny? Roedd Llywodraeth Cymru yn barod i gefnogi'r gwaith o brynu gwaith Port Talbot gan reolwyr, o bosibl, ychydig flynyddoedd yn ôl. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo y prynhawn yma i ystyried modelau perchnogaeth posibl eraill os nad yw'r dull y mae ef yn ei gymryd ar hyn o bryd yn llwyddiannus? A fyddai ef yn ystyried model cydweithredol? A fyddai ef yn ystyried cwmni di-elw? Ac os bydd Llywodraeth y DU yn cael cyfran yn y cwmni yn y pen draw, a wnaiff ef ymrwymo i ddod o hyd i ffordd y gall Llywodraeth Cymru wneud hynny hefyd, fel bod gennym ni sedd wrth y bwrdd pan wneir penderfyniadau ynglŷn â'r diwydiant hanfodol hwn yn y dyfodol?