4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Llwybr Newydd — Strategaeth Drafnidiaeth Newydd i Gymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 17 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 4:28, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr am y cwestiynau yna ac am y cynnig o gefnogaeth eang, yn enwedig ynglŷn â'r egwyddor o ddatgarboneiddio trafnidiaeth. Cytunaf fod hon yn agenda drawsbleidiol a bydd yn cymryd sawl tymor o'r Senedd i'w gweithredu, a chroesawaf ei sylwadau.

O ran y sail gyfreithiol, yna, wrth gwrs, mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn sail i'r dull a nodwyd gennym ni, ymhlith darnau eraill o ddeddfwriaeth, ond mae honno'n un sydd wedi bod yn ganolog, yn sicr i'r ffordd yr ydym ni wedi mynd ati i ymgynghori ynghylch cynnwys, cydweithredu a meddwl yn y tymor hir, a chydweithio â defnyddwyr a gydag eraill. Felly, mae hynny'n sicr wedi dylanwadu ar sut yr ydym ni wedi mynd ati.

O ran hygyrchedd corfforol a chyfranogiad pobl anabl, wel, maen nhw yn sicr wedi cymryd rhan. Cafwyd nifer o sesiynau gyda grwpiau cydraddoldeb, a chredaf y gwelwch chi pan ddarllenwch chi flaenoriaeth 1 yn yr ymgynghoriad ei fod yn adlewyrchu blaenoriaethau'r sector hwnnw'n fawr—mae'n llai, ar un ystyr, o ddatganiad o safbwynt y Llywodraeth, ac yn fwy, mewn gwirionedd, o adlewyrchiad o hynny. Felly rydym wedi dewis sut yn union i ymgynghori ar yr agweddau hynny. Felly, credaf fod hynny'n adlewyrchu'r ffaith bod ein hymgysylltiad â'r sector yn gwbl ddidwyll.

Mae'r mater, mewn gwirionedd, o rwystrau corfforol i drafnidiaeth gyhoeddus yn cyd-fynd â'r cwestiwn y mae Helen Mary yn ei ofyn am gysylltedd bysiau hefyd, oherwydd mae a wnelo hynny â chael marchnad breifat a reoleiddir yn llac i ymwneud â nwyddau cyhoeddus, sy'n anodd ei wneud o fewn y fframwaith deddfwriaethol presennol, ar gyfer yr holl ddeddfau cystadlu a rhwystrau a fydd yn gyfarwydd iawn iddi hi ac eraill yn y Siambr hon, a dyna pam yr oedd arnom ni eisiau deddfwriaeth yn y tymor hwn i roi sylfaen strategol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, nad ydym ni wedi gallu ei wneud oherwydd COVID.

Nawr, drwy'r telerau a'r amodau yr ydym ni yn eu gosod ar gyfer ein grantiau cymorth bysiau wrth ymateb i COVID—oherwydd, i bob diben, byddai'r cwmnïau bysiau hyn yn mynd i'r wal hebddynt—rydym ni wedi rhoi cymorth ariannol sylweddol ac mae  angen cydweithrediad arnom ni yn gyfnewid am hynny, ac mae hynny'n cynnwys, i rai o'r rheini, yn enwedig, y gallu inni gydlynu. Mae hynny'n waith sy'n mynd rhagddo, ac rydym yn dal i gredu bod swyddogaeth i ddeddfwriaeth, ac rydym ni yn paratoi darn o ddeddfwriaeth i bwy bynnag sy'n ffurfio'r Llywodraeth nesaf i ddatblygu hynny os dymunant. Ond credwn fod y gofyniad am hynny yn bendant yn bodoli.

O ran ei sylw am wefrio ceir trydan mewn ardaloedd gwledig, mae hi'n gywir: mae angen gwneud mwy. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi'r hyn y maen nhw'n ei alw'n gerbydau allyriadau hynod isel, sy'n gronfa drafnidiaeth wedi'i datgarboneiddio ar gyfer cerbydau trydan, sy'n rhy fach ar hyn o bryd, sef tua £29 miliwn—mae angen iddi fod yn llawer mwy na hynny—a chredaf fod hynny'n un o'r pethau y mae angen inni ei ystyried o ran y cynllun cyflawni, am y ffordd yr ydym ni'n blaenoriaethu ein buddsoddiad ar gyfer hynny o'u cymharu â phethau eraill.

Credaf fod ei sylw olaf am y canfyddiad o ddiogelwch a realiti diogelwch yn un pwysig iawn, ac mae'n mynd at wraidd popeth a wnawn ni yma, mewn gwirionedd, oherwydd tybiaethau pobl ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus yw un o'r rhwystrau. Gwyddom o ymchwil fod pobl yn credu bod trafnidiaeth gyhoeddus yn cymryd mwy o amser i gyrraedd eich cyrchfan nag y mae mewn gwirionedd, mae pobl yn ei ystyried yn llai diogel nag ydyw mewn gwirionedd, ac un o'r dyfeisiau newid ymddygiad y mae angen i ni ei weld i wneud i hyn weithio yw newid canfyddiadau pobl drwy eu hannog i roi cynnig ar drafnidiaeth gyhoeddus, newid eu canfyddiadau, ac wrth gwrs, wrth wneud hynny, mae gennych chi ddiogelwch mewn niferoedd. Po fwyaf o bobl sy'n defnyddio rhwydweithiau teithio llesol neu rwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus, y mwyaf diogel y mae'n ei deimlo a'r mwyaf diogel y daw. Felly, ar un ystyr, dadl yr iâr a'r wy yw hon, a dyna pam y mae'r holl ymgyrch i newid sut mae pobl yn teithio, sy'n mynd y tu hwnt i ddatgarboneiddio—rydym ni wedi siarad yn y gorffennol am ddatgarboneiddio'r system drafnidiaeth; wel, mae hynny'n hanfodol, ond mae newid sut mae pobl yn teithio yn mynd y tu hwnt i hynny, oherwydd mae'n dweud, 'bydd gennym ni system drydan fwy gwyrdd, ond mae angen inni gael mwy o bobl yn ei defnyddio, a llai o bobl yn defnyddio ceir unigol.'