Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 17 Tachwedd 2020.
Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad heddiw ac am y briff technegol a roddodd i ni, Aelodau'r gwrthbleidiau, ddoe. Hoffwn ddiolch hefyd i'w swyddogion. Roedd yn ddefnyddiol iawn ac yn hynod ddiddorol. Wrth gwrs, mae hon yn gyfres eang iawn o gynigion. Credaf fod angen i bob un ohonom ni gymryd amser i'w hystyried yn iawn ac ymateb i'r ymgynghoriad, ond maen nhw yn uchelgeisiol, ac rydym ni, ar feinciau Plaid Cymru, yn croesawu hynny yn fawr iawn. Ac rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd y Gweinidog ynglŷn â bod yn rhaid i ni wneud pethau'n wahanol, ac nid oes neb yn credu y bydd hynny'n hawdd. Bydd heriau a bydd penderfyniadau anodd ac amhoblogaidd efallai i'w gwneud.
Bydd y gwaith sydd wedi'i wneud i baratoi'r drafft hwn, yn ein barn ni, yn sylfaen gref i bwy bynnag sy'n ffurfio'r Llywodraeth nesaf i symud yr agenda hon yn ei blaen, a'm hargraff i, Llywydd, yw y bydd cefnogaeth eang i'r Dirprwy Weinidog. Efallai fod gennym ni wahaniaeth barn am fanylion, ond caiff gefnogaeth eang ar draws y Siambr hon, a chredaf fod hynny'n bwysig. Oherwydd efallai y bydd angen llawer o Lywodraethau a llawer tymor Llywodraeth ac efallai Llywodraethau o wahanol liwiau ar gyfer newid ar y raddfa hon, ond credaf fod angen i bobl yn y sector a phartneriaid allweddol ddeall ein bod ni i gyd yn deall pwysigrwydd datgarboneiddio trafnidiaeth a sicrhau bod ein system trafnidiaeth gyhoeddus yn gweithio.
Mae gennyf ychydig o gwestiynau penodol yr hoffwn i eu gofyn i'r Dirprwy Weinidog heddiw—rhai am y broses ac o bosibl y broses yn y dyfodol, ond hefyd rhai manylion am y cynnwys. Ond os nad oes gan y Dirprwy Weinidog atebion ar unwaith, yna mae'r rhain yn sgyrsiau y byddwn yn sicr yn parhau i'w cael.
Mae'r Dirprwy Weinidog yn ei ddatganiad yn cyfeirio at ysbryd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol droeon. A all ddweud wrthym ni y prynhawn yma i ba raddau y mae'r ddeddfwriaeth hon wedi darparu'r sail gyfreithiol ar gyfer paratoi'r ddogfen ymgynghori hon a'r camau gweithredu oddi mewn iddi? Mae'n ymddangos i mi, yn enwedig pan fydd penderfyniadau anodd i'w gwneud, y gall sail gyfreithiol glir o ran y cyd-destun fod o gymorth.
Mae'r dogfennau eu hunain a'r Gweinidog yn ei ddatganiad yn cyfeirio at hygyrchedd. Defnyddir y term hwnnw mewn nifer o ffyrdd, ac rwy'n cytuno ei fod yn amlwg yn hollbwysig. A gaf i ofyn yn benodol i'r Dirprwy Weinidog a yw'n cytuno â mi fod hygyrchedd corfforol yn dal yn rhwystr gwirioneddol i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, boed hynny'n rhiant â phram neu bobl sy'n byw gydag amrywiaeth o namau corfforol? Gwyddom, er enghraifft, faint o'n gorsafoedd na allwch chi eu defnyddio oherwydd bod cynifer o risiau. A gaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog a ymgynghorwyd â phobl anabl wrth baratoi'r drafft hwn a sut y bydd yntau a'i swyddogion yn sicrhau y galluogir nhw i ymateb i'r ymgynghoriad?
Cytunaf â'r Dirprwy Weinidog pan ddywed na fydd ceir trydan yn datrys ein holl broblemau, ond fel y dywedodd Russell George, mae ganddyn nhw swyddogaeth bwysig, a bydd cerbydau trydan yn bwysig, o bosib, mewn cymunedau gwledig yn arbennig. Croesawaf yr ymrwymiad yn y drafft i gynllun gwefrio cerbydau trydan, a chlywaf yr hyn a ddywed y Dirprwy Weinidog am beidio â darparu'r holl seilwaith o reidrwydd, ond ai bwriad y Dirprwy Weinidog yw y bydd y cynllun yn fodd o gyflymu'r broses sy'n mynd rhagddi ar hyn o bryd o gyflwyno'r seilwaith, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig? Byddwn yn dweud wrth y Dirprwy Weinidog na allwn ni aros am fethiant yn y farchnad mewn gwirionedd, oherwydd nid ydym ni'n gwybod faint o amser a gymer hi i ni wybod bod y farchnad wedi methu.
Nawr, rwy'n gwybod y bydd y Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi, os ydym ni eisiau hwyluso newid ymddygiad, fod angen trawsnewidiad gwirioneddol arnom ni yn y ffordd y mae'r dulliau teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus yn cysylltu â'i gilydd. A yw'n cytuno â mi y bydd angen adolygu a chryfhau'r Bil bysiau drafft arfaethedig presennol er mwyn sicrhau ei fod yn rhoi digon o rym i bwy bynnag sy'n ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru dros wasanaethau bysiau i sicrhau bod cwmnïau bysiau'n cydymffurfio â'r angen am y cysylltedd effeithiol hwnnw rhwng y gwahanol ffyrdd o deithio?
Ac yn olaf, a yw'r Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi, os ydym ni eisiau argyhoeddi pobl i adael eu ceir gartref—ac rydym ni wedi siarad llawer am gyfleustra yn hyn o beth, ond i rai pobl, mae y tu hwnt i gyfleustra—rhaid inni sicrhau bod ffyrdd llesol o deithio a thrafnidiaeth gyhoeddus yn ddiogel ac yn teimlo'n ddiogel, yn enwedig i ddefnyddwyr a allai fod yn agored i niwed? Felly, a gaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog pa ystyriaeth sydd wedi'i rhoi wrth baratoi'r drafft hwn i bwysigrwydd sicrhau diogelwch pobl sy'n defnyddio dulliau teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus ac a allai fod yn agored i niwed, yn enwedig menywod a merched? Rwy'n meddwl, yn amlwg, yma, yn enwedig am deithio yn ystod y nos, pobl sy'n dychwelyd o sifftiau hwyr yn y gwaith, y mathau hynny o faterion, lle rwy'n gwybod fod llawer o fenywod yn amharod iawn i ddefnyddio ein dulliau trafnidiaeth gyhoeddus presennol, oherwydd p'un a ydyn nhw'n ddiogel ai peidio, nid ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel iawn i'w defnyddio.