Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 17 Tachwedd 2020.
Diolch ichi am eich datganiad, Dirprwy Weinidog, ac, er fy mod yn gwybod yn hollol beth yw pwyslais eich datganiad, byddai'n esgeulus ohonof yn y fan yma i beidio â chroesawu'r cyhoeddiad diweddar am y contract ar gyfer gwelliannau i ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd. Mae hwnnw'n benderfyniad strategol a rhanbarthol bwysig i sicrhau y darperir seilwaith trafnidiaeth diogel sy'n cael ei reoli'n dda, ac mae'n dangos pwysigrwydd llunio gweledigaeth hirdymor a glynu wrthi. Ac wrth gwrs, fel yr ydych chi'n cydnabod, rhaid i rwydwaith ffyrdd o ansawdd da fod yn rhan o unrhyw strategaeth, oherwydd nid yw mathau eraill o drafnidiaeth—yn enwedig rhai dewisiadau teithio llesol—bob amser yn ymarferol i bawb mewn rhai cymunedau yn y Cymoedd, lle gall topograffeg wneud hynny'n anodd iawn, iawn, er fy mod yn derbyn yn llwyr nad yw hynny o reidrwydd yn golygu ein bod yn diystyru datgarboneiddio yn llwyr—i'r gwrthwyneb.
Ond mae'r strategaeth ddrafft yn pwysleisio un o wersi allweddol y pandemig, sef pwysigrwydd seilwaith trafnidiaeth lleol, ac nid oes amheuaeth nad yw cyfnod COVID-19 wedi dangos gwir werth ein rhwydwaith bysiau lleol i ni. Nawr, diolch byth, ym Merthyr Tudful, mae gennym ni ddatblygiad yr orsaf fysiau newydd i atgyfnerthu'r neges hon, ond mae angen inni symud y tu hwnt i orsaf fysiau newydd yn unig, ac, er fy mod yn credu eich bod eisoes wedi ymdrin â nifer o'r cwestiynau ar y pwnc hwn, mae'n ofid i mi, fel eraill, fod yn rhaid i ni golli'r Bil bysiau o raglen ddeddfwriaethol y Senedd hon, er fy mod, fel eraill, yn gobeithio y byddwn yn ei weld yn ôl yn dilyn yr etholiad y flwyddyn nesaf.
Ond, er fy mod yn credu, fel y dywedais, eich bod eisoes wedi ateb fy nghwestiwn i raddau helaeth, hoffwn wybod sut y bydd gwella seilwaith ein rhwydweithiau bysiau lleol, datblygu trafnidiaeth fwy chwim a mwy ymatebol yn ein cymunedau, yn rhan o'r strategaeth hon, a faint o waith tasglu'r Cymoedd y cyfeiriwyd ato yn eich atebion i Alun Davies fydd yn rhan o'ch meddwl yn hyn o beth.