4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Llwybr Newydd — Strategaeth Drafnidiaeth Newydd i Gymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 17 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 4:37, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Credaf fod yn rhaid i bob un ohonom ni gydnabod bod diwygio'r seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru yn dasg sylweddol iawn, ond credaf ein bod ni i gyd yn cytuno bod yn rhaid inni gael newid sylfaenol yn ein defnydd o drafnidiaeth, yn enwedig yr angen i annog y cyhoedd i ddefnyddio llai ar eu ceir eu hunain. Mae braidd yn anffodus bod eich datganiad yn cynnwys awgrym y byddech yn ystyried system i godi tâl ar gyfer ceir preifat, oherwydd wedi'r cyfan, Llywodraeth y DU, y Trysorlys, fydd yn colli'r refeniw wrth inni drosglwyddo o gerbydau sy'n defnyddio carbon i gerbydau trydan. Felly, a gaf i awgrymu, cyn cyflwyno unrhyw daliadau, ein bod yn sicrhau bod gennym ni system drafnidiaeth gyhoeddus o'r radd flaenaf yng Nghymru, a bod seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn fforddiadwy, hyd yn oed i'r rhai mwyaf difreintiedig yn economaidd yn ein cymdeithas? Nid wyf eisiau bod yn negyddol mewn unrhyw ffordd ynghylch hyn, ond credaf fod yn rhaid i bob un ohonom ni gydnabod, pa system drafnidiaeth gyhoeddus bynnag sydd ar waith, y bydd miloedd lawer o hyd, yn enwedig yn ein cymunedau gwledig, heb unrhyw ddewis arall ond defnyddio ceir i gyrraedd y gwaith. Felly, bydd yn rhaid i unrhyw system godi tâl a allai fod gennych chi, ystyried hynny.

Rwy'n siŵr, mewn gwirionedd, wrth ddarllen eich datganiad, Dirprwy Weinidog, ein bod yn croesawu'r ymdrechion sylweddol y byddwch yn eu gwneud i ymgynghori â'r cyhoedd, a chredaf ei bod yn hanfodol ein bod yn sicrhau cefnogaeth y cyhoedd i'r fenter hon. Mae'n rhaid cael yr abwyd a'r ffon os ydym ni'n mynd i gyflawni yn union yr hyn y mae arnom ni eisiau ei gyflawni yma. A chredaf ein bod ni i gyd, ar draws y Siambr, yn derbyn na allwn ni barhau yn y ffordd y buom ni dros y degawdau diwethaf, oherwydd rydym i gyd yn dioddef o'r tagfeydd traffig, ac ati, sy'n digwydd, ac mae hynny'n gost economaidd enfawr i Gymru hefyd. Felly, a gaf i ofyn, yn eich ymgynghoriad â'r cyhoedd, y gallwn ni gael sicrwydd gennych chi y byddwch yn ystyried eu hawgrymiadau a'u syniadau, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n cyd-fynd â dyheadau'r Llywodraeth?