Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 17 Tachwedd 2020.
—ein bod yn mynd i gael yr ymgynghoriad. Hynny yw, wrth ystyried codi tâl am dagfeydd, bod yn rhaid inni ystyried o ble y daw'r drafnidiaeth, ac ni ddylid ei weld fel treth ar y Cymoedd, a gwn fod hynny ar feddwl y Gweinidog i raddau helaeth iawn. Y pwynt olaf un yw: a fydd y Llywodraeth nawr yn ymgyrchu dros ddirymu adran 25 o'r Ddeddf Rheilffyrdd, fel nad yw mater perchnogaeth gyhoeddus ar ein system drafnidiaeth yn un sydd dim ond yn mynd i ddychwelyd i hen ddeddfwriaeth, ddi-rym sydd wedi dyddio?