Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 17 Tachwedd 2020.
Diolch yn fawr iawn i Nick Ramsay am ei gwestiynau, a hefyd am ei ddiddordeb arbennig yn yr agenda hon. Wrth gwrs, ni allaf beidio â chyfeirio at sylwadau cyntaf Nick Ramsay am gyni, a'r ffaith bod y tapiau wedi'u hagor o'r diwedd o ran buddsoddi, ond mae'n anffodus ei bod wedi cymryd pandemig cyn i hynny ddigwydd, ac mae'n dangos mai dewis gwleidyddol oedd cyni ar hyd yr amser.
Ond o ystyried natur ddefnyddiol cwestiynau Nick, ni fyddaf yn gwthio hynny ymhellach, a byddaf yn troi nawr at y cwestiwn a oedd yn ymwneud â'r gwahaniaeth rhwng rhannau blaenorol yr A465 a pham mae'r cynllun hwn yn wahanol i'r hyn a'i rhagflaenodd. Y rheswm am hynny yw nad yw cynllun adran 2 yr A465, y cyfeiriodd ato, lle bu problemau o ran amserlennu'n arbennig, yn gynllun model buddsoddi cydfuddiannol. Cynllun cynnwys contractwyr cynnar yw hwnnw, ac felly mae rhai gwahaniaethau gwirioneddol arwyddocaol rhwng y ddau, ac ni ddylem ni weld y problemau hynny a welsom ni gyda chynllun adran 2 gyda'r model buddsoddi cydfuddiannol, oherwydd contract pris sefydlog yw model buddsoddi cydfuddiannol yn ei hanfod. Mae trosglwyddo risg da wedi'i gyflawni drwy gontractau, ac mae hynny'n golygu, gyda nifer fach o eithriadau, fod y rhan fwyaf o'r rhaglen a'r risg o ran costau yn cyd-fynd yn llawn â Chymoedd y Dyfodol. Cymoedd y Dyfodol, wrth gwrs, y cyfeiriais ato yn fy natganiad fel y sefydliad, os mynnwch chi, yr ydym ni wedi ymrwymo i'r contract gydag ef. Ni fydd Cymoedd y Dyfodol yn cael eu talu nes bydd y gwasanaeth yn weithredol, ac mae hynny, wrth gwrs, yn eu cymell i gyflawni eu rhaglen adeiladu. Mae'r contract yn cynnwys cyfyngiadau llym ar faint o reoli traffig a chau ffyrdd—gwn fod hynny'n bryder penodol yn lleol.
Mae cosbau ariannol llym am beidio â chydymffurfio â chyfyngiadau'r contract, ac eto, mae hyn i gyd yn wahanol iawn i'r dull gweithredu a'i rhagflaenodd. Yn ystod y cam tendro, cynhaliwyd dros £7 miliwn o arolygon, a datblygwyd cwmpas yr ymchwiliadau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'r cynigwyr, gan gynnwys ymchwiliadau tir ac ymchwiliadau strwythurol ymwthiol i'r strwythurau presennol. Mae'r ymchwiliadau hynny wedi galluogi Cymoedd y Dyfodol i ddeall natur y safle'n well, ac felly i brisio'r risgiau'n gywir. Felly, credaf fod y cynllun hwn yn wahanol iawn i'r hyn a'i rhagflaenodd, ac mae'n dod â nifer o fanteision pwysig yn ei sgil.
Roedd gan Nick Ramsay ddiddordeb arbennig yn y manteision cymunedol, ac yn enwedig y rheini sy'n ymwneud â'r A465. Bydd y contract yn darparu dros 120 o brentisiaethau, 60 o hyfforddeiaethau, dros 320 o interniaethau a 1,600 o gymwysterau cenedlaethol. Mae hynny'n cyflawni ein blaenoriaeth o sicrhau'r manteision gorau o ran ein cyfraniad at gyflogi pobl ifanc a datblygu sgiliau, yn enwedig ar adeg mor bwysig. Bydd y prosiect hefyd yn ein helpu i unioni rhai o'r anghydraddoldebau sydd wedi'u gwaethygu gan y pandemig drwy ddarparu cyflogaeth lle mae ei angen fwyaf, a bydd hefyd, yn y cyfnod adeiladu yn unig, yn cynhyrchu'r hyn sy'n cyfateb i 59.6 mlynedd o waith i'r rhai sydd yn y categori NEET neu'n ddi-waith yn hirdymor, a 125 mlynedd o waith i weithwyr o gefndiroedd difreintiedig. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn o ran y manteision hynny. A bydd dros 80 y cant o gyfanswm y gwariant amcangyfrifedig ar nwyddau, gwasanaethau a gorbenion yn ystod y cyfnod adeiladu yn cael ei wario ar fusnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth, rwy'n credu, y byddwn i gyd eisiau ei groesawu.
Rwy'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd cynlluniau adeiladu sy'n amgylcheddol gynaliadwy, a bydd y cynllun model buddsoddi cydfuddiannol yn sicr yn cael ei adeiladu gyda chynaliadwyedd hirdymor mewn golwg, yn unol â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Er enghraifft, er mwyn darparu cynaliadwyedd amgylcheddol, mae egwyddorion dylunio allweddol canolfan ganser Felindre yn cynnwys defnyddio adnoddau naturiol ac effeithlonrwydd ynni ym mhob rhan posibl. Bydd yr A465, er ei bod yn gwella diogelwch, cysylltedd a thagfeydd yr ardal leol hefyd yn gwella cydnerthedd ffyrdd eraill Cymru drwy ddod yn llwybr amgen yn ystod cyfnodau o dagfeydd, gwaith cynnal a chadw neu ddigwyddiadau mawr. Ac yn amlwg, bydd amgylcheddau dysgu newydd hefyd yn cael eu hadeiladu drwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a rhaid iddyn nhw gyflawni sgôr A yn null asesu 'Yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad' a 'rhagorol' yn null asesu'r Sefydliad Ymchwil Adeiladu. Felly mae'r pethau hyn ar flaen ein meddyliau hefyd.
Ac yna, yn olaf, roedd cwestiynau'n ymwneud â monitro ein buddsoddiadau a pherfformiad Banc Datblygu Cymru. Wel, bydd cael cyfarwyddwr a enwebwyd gan y sector cyhoeddus ar y bwrdd o gwmnïau sy'n darparu'r asedau cyhoeddus yn rhoi cryn dryloywder. At hynny, bydd buddsoddiad cyhoeddus mewn cynlluniau model buddsoddi cydfuddiannol hefyd yn sicrhau llif o wybodaeth gan cyfranddalwyr ynglŷn â pherfformiad y cwmni yn ôl i Weinidogion Cymru. Ac mae Llywodraeth Cymru wedi llunio cytundeb benthyca gyda Banc Datblygu Cymru mewn cysylltiad â'r buddsoddiad model buddsoddi cydfuddiannol sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r banc ddarparu adroddiadau chwarterol ar berfformiad cwmni'r prosiect, perfformiad y buddsoddiad ac unrhyw risgiau allweddol cyfredol. Credaf fod hynny'n bwysig o ran tryloywder a rheolaeth dda dros y prosiectau hefyd. Diolch.