6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Nodi Wythnos Rhyngffydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:54 pm ar 17 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 5:54, 17 Tachwedd 2020

Gaf i, yn y lle cyntaf, ddiolch yn fawr iawn i Jane Hutt, Dirprwy Weinidog, am ddatganiad bendigedig, mae'n rhaid imi ddweud? Dwi'n ymuno efo hi yn ei geiriau croesawgar. Dŷn ni yma yn nodi Wythnos Rhyngffydd, ond fel mae'r Dirprwy Weinidog eisoes wedi'i nodi, nid yn unig nodi ond dathlu cyfraniad ein cymunedau o ffydd, yn enwedig yn ystod pandemig y misoedd diwethaf yma pan nad yw cynulleidfaoedd wedi gallu cyfarfod yn eu modd traddodiadol, bydded hynny mewn capel, eglwys, mosg neu fangre arall; dŷn ni wedi bod yn cyfarfod ar-lein.

Fel rhywun, yn bersonol felly, sydd yn bregethwr lleyg, dwi'n gweld yr holl waith caled gwirfoddol yn wastadol sydd yn mynd ymlaen o hyd, ac yn rhyfeddu ato, mae’n rhaid i fi ddweud, fel mae’r Dirprwy Weinidog wedi olrhain, ac nid dim ond, wrth gwrs, yn ein capeli ac yn ein heglwysi Cristnogol, ond hefyd cyfraniad allweddol cyfeillion o gefndiroedd ffydd eraill—dŷn ni i gyd yn cymysgu efo’n gilydd yn ein dinasoedd. Mae’r gwaith gwirfoddol sy’n mynd ymlaen ar lawr gwlad yn wirioneddol ryfeddol. A gyda’r ymateb i’r pandemig, mae wedi codi i lefel arall dŷn ni ddim wedi ei weld erioed o’r blaen, a hefyd cyn hynny i'r ymateb i’r llifogydd gynt y gwnaeth y Dirprwy Weinidog sôn amdanyn nhw. Mae’r gwaith caib a rhaw sydd yn cael ei gyflawni yn haeddu bod yn destun dathliad, a dyna pam dwi’n croesawu'r datganiad yma mor frwd y prynhawn yma. Darparu bwydydd i fanciau bwyd, darparu parseli o fwyd i unigolion a theuluoedd bregus, mae’r ymateb wedi bod yn rhyfeddol; darparu dillad, celfi, carpedi sych, teganau i’r plant, popeth.

Wrth gwrs, yn y cyfnod clo, nid oeddem yn gallu cynnal oedfaon yn ein capeli a’n heglwysi na’n mosgiau, fel dwi wedi dweud eisoes. Ac, wrth gwrs, roedd yna gyfyngiadau llym ar angladdau a phriodasau, ac, er hynny, roedd yna gydweithio rhyfeddol yn digwydd ar y llawr. Bu i mi bregethu am y tro cyntaf dros Zoom—dyna brofiad newydd i rai ohonon ni—cyn mynd nôl i’r pulpud y Sul diwethaf yma. Ac wedi’r cyfnod clo diwethaf yma, mae ein capeli a’n heglwysi ni wedi ailagor eto, ac mae ein capeli a’n heglwysi wedi’u diheintio mewn modd nas gwelwyd erioed o’r blaen. Mae yna waith rhyfeddol yn mynd ymlaen. Mae tâp argyfwng coch a gwyn yn cadw pawb o leiaf 2m ar wahân yn y seddi tu mewn i’n capeli, gyda hylif diheintio wrth y drws, pawb yn gwisgo mygydau tu mewn, dim canu emynau, gyda system olrhain a diogelu mewn lle, yn ysgrifenedig a thrwy ap COVID-19—sganiwch eich ffôn wrth y drws wrth fynd i mewn i’r capel neu’r eglwys. Mae’r newidiadau wedi bod yn rhyfeddol, a’r glanhau parhaol wrth i’r gwahanol fudiadau cymdeithasol ddefnyddio ein festrïoedd ni a’n neuaddau ni yn ystod yr wythnos. Mae’r heriau wedi bod yn enfawr, yn wir, fel mae’r Dirprwy Weinidog wedi dweud eisoes.

A dwi hefyd yn diolch i’r Dirprwy Weinidog am beth mae wedi'i ddweud am yr arian sydd ar gael i fudiadau ffydd i gyflawni rhagor o weithgareddau lleol i gefnogi ein pobl fwyaf bregus, achos nid bob tro yn y gorffennol mae'r fath botiau o arian wedi bod ar gael i fudiadau ffydd. Felly, a allaf i jest ofyn faint o fudiadau ffydd, yn wir, sydd wedi gwneud cais dan y cynllun hwn dŷch chi wedi'i olrhain y prynhawn yma?

Ond i orffen, felly, Dirprwy Lywydd, yn yr wythnos bwysig yma, dŷn ni i gyd wedi bod yn talu teyrngedau lu, ac yn haeddiannol iawn, i weithwyr y gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol, gweithwyr llywodraeth leol a hefyd i ofalwyr ac ati, ac weithiau dŷn ni’n anghofio sôn am ein cymunedau ffydd a’r holl waith gwirfoddol sydd yn mynd ymlaen ar y llawr, yn ddistaw bach y tu ôl i'r llenni, heb i neb wybod, a hefyd diolch i’r sawl sydd heb gefndir ffydd sydd hefyd yn ein helpu ni allan. Felly, diolch yn fawr iawn i’r Gweinidog, a diolch yn fawr iawn i bawb am eu gwaith dygn a chaled—testun dathlu yn wir.