10. Dadl Fer: Manteision llesiant y celfyddydau mewn pandemig

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:18 pm ar 18 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 6:18, 18 Tachwedd 2020

Felly, gaf i ddiolch i Jayne am ei haraith? Gaf i ddiolch hefyd am ei chefnogaeth i gelf ac i bwysigrwydd y celfyddydau ym mywyd gwleidyddol Cymru ar hyd ei chyfnod fel Aelod Cynulliad? Diolch iddi hefyd am gyfeirio at yr holl weithgaredd sydd yn digwydd yng Nghasnewydd. Dwi wedi bod yn falch o'r cyfle i fod yn ei chwmni hi yn ymweld â rhai o'r canolfannau yma a oedd hi'n cyfeirio atyn nhw. Dwi'n cydnabod mor bwysig mae swyddogaeth Casnewydd a'r gweithgaredd sydd yn digwydd yno.

Ond beth garwn i ddweud fel ymrwymiad iddi wrth ymateb i'r ddadl fer ydy fy mod i'n cytuno'n llwyr â hi ein bod ni wedi darganfod ffordd newydd o weithio, a ffordd newydd o ddeall beth yw diben celfyddyd yn y gymdeithas—ffordd na allwn ni ddim fforddio ei anghofio. Dyna pam bod hi wedi bod mor bwysig i mi weld gymaint o ymateb sydd wedi bod i'r gronfa adferiad diwylliannol, fel dywedais i'n gynharach heddiw yma, ac i'r pecyn ychwanegol drwy gronfa gwytnwch y celfyddydau, sydd ar hyn o bryd yn parhau—wel, sydd ar hyn o bryd wedi rhedeg mas, a dweud y gwir, ac rydym ni’n chwilio am gyllid ychwanegol i sicrhau ein bod ni'n dal i allu cefnogi’r ceisiadau rydym ni’n eu derbyn.

Mae Llywodraeth Cymru'n mynd i barhau i gefnogi’r sector i ailagor drwy ddefnyddio celf fel allwedd i ddod mas o’r cyfnod clo, oherwydd mae’r ymwybyddiaeth sy’n dod drwy gelfyddyd wedi ei brofi i fod yn hanfodol i bobl yn yr argyfwng hwn. Ac er bod ein theatrau a’n neuaddau cyngerdd ni wedi bod ar gau, mae pobl wedi darganfod o’r newydd ddulliau eraill o gyfathrebu celf. A phan fydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn caniatáu, rwy’n sicr y bydd y dulliau yma'n parhau i gael eu defnyddio, yn ogystal â’r dulliau traddodiadol sydd ddim wedi bod yn bosib yn y cyfwng yma. Mi gafodd ein rhaglen ni fel Llywodraeth o ddigwyddiadau profi ei ohirio ym mis Medi, ond mae’r cynllun yna o hyd, cynllun clir o ail-agor, ac mi fyddwn ni’n datblygu’r cynllun yna gan ddysgu oddi wrth yr ymdrechion amlwg sydd yn digwydd yn y gymuned yn wirfoddol yn barod.

Dwi’n ddiolchgar am y cydweithio sydd wedi bod rhwng adran iechyd Llywodraeth Cymru a chyngor y celfyddydau ynglŷn â phresgripsiynau cymdeithasol. Dwi’n ddiolchgar hefyd am yr holl waith arloesol y cyfeiriodd Jayne ato sydd yn cynnwys yr holl gwmnïau y gwnaeth hi eu henwi—Theatr y Sherman, y gyfres sain Heart of Cardiff; Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ar y cyd gyda English National Ballet; sesiynau Dance for Parkinson's ar-lein ac ar Zoom; a chysylltiad Cwmni Theatr Arad Goch gydag ysgolion yn dal i ddefnyddio adnoddau digidol yn ystod y cyfnod clo. Ac mae prosiect Celf ar y Cyd wedi bod yn un trawiadol iawn i mi, rhwng cyngor y celfyddydau a’r amgueddfa genedlaethol, gyda’n cefnogaeth ni fel Llywodraeth i sicrhau bod pobl yn gweld celf yn yr ysbytai, a bod gweld celf yn yr ysbytai o’r newydd yn dod yn rhan o’r arwydd o rôl celf mewn iechyd. 

Un llwyddiant mawr arall y gwnaf i ei enwi cyn darfod yr ymateb yma ydy adrodd storïau digidol Bae Abertawe, sydd yn cael ei gyflwyno bellach ar draws byrddau eraill y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru. Mae’r prosiect yma'n caniatáu i’r rhai hynny sydd yn wael greu stori glaf ddigidol, fel rhan o ymrwymiad y bwrdd iechyd i wrando ar a dysgu o’u profiadau nhw. Mae’r dulliau newydd yma o weithio'n mynd i barhau gyda ni ar gyfer y dyfodol.

Felly, diolch am yr holl waith da y mae cyngor y celfyddydau wedi ei wneud, yn cydweithio, fel y dywedodd Jayne, efo adnoddau celfyddydol ar-lein, y gofal iechyd ar draws y gwasanaeth iechyd gwladol yn cydweithio gyda chelf. Mae Llywodraeth Cymru'n ymrwymo i barhau gyda’r gwaith yma, nid cyhyd ag y bod angen i ddod allan o’r argyfwng yma, ond fel ffordd ymarferol o weithredu o hyn ymlaen. Oherwydd fy nghefndir yn y gorffennol, dwi wedi bod yn ceisio dadlau dros y blynyddoedd bod yna rôl arbennig i gelfyddyd, ac roedd hi’n dalcen caled weithiau. Roedd pobl yn dweud, ‘Wel, beth gall y celfyddydau ei gyflawni?’ Does neb yn dweud hynny heddiw. Felly diolch i Jayne am roi'r cyfan yma ar y Record. Diolch i’r Aelodau am y drafodaeth arall y cawson ni'n gynharach y prynhawn yma, a heb dynnu, wrth gwrs, oddi wrth beth rydw i wedi ei ddweud yn barod, mae’n rhaid i mi ddweud un peth: nid yn unig ydw i’n Weinidog celfyddyd, ond dwi’n Weinidog chwaraeon, ac felly gaf i ddymuno pob hwyl i Gareth Bale a gweddill y tîm heno? Diolch yn fawr.