– Senedd Cymru am 6:04 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Rydyn ni'n symud nawr tuag at y ddadl fer. Mae'r ddadl fer y prynhawn yma i'w chyflwyno gan Jayne Bryant.
Diolch, Lywydd. Wrth i ni symud drwy un o'r pandemigau byd-eang mwyaf heriol ers cenedlaethau, mae'n hawdd gweld pam y gallai rhai pobl esgeuluso'r celfyddydau. Efallai na fyddant yn chwarae rhan amlwg wrth inni fynd i'r afael â'r problemau rydym yn eu hwynebu, ond mae mor bwysig cydnabod sut y mae'r celfyddydau wedi bod yn rhan annatod o les meddyliol a chorfforol pobl o bob oed a gallu, yn ogystal â dod â phobl at ei gilydd. Nid oes dim yn tynnu sylw at hyn yn fwy na'r llifeiriant o fynegiant cymunedol a welwyd ar ddechrau'r pandemig. Wrth i COVID leihau ein gallu i gymdeithasu, daeth pobl o hyd i ffyrdd newydd o ddangos eu diolchgarwch—cerrig mân wedi'u paentio a'u gadael ar y stryd, gwaith celf wedi'i arddangos mewn ffenestri dirifedi, canu yn y stryd, ymhlith pethau eraill, i ddiolch i'n GIG, ein staff gofal cymdeithasol a gweithwyr allweddol. Roedd y cyfan yn fynegiant sy'n defnyddio ein sgiliau creadigol, ac rydym wedi gweld celf a cherddoriaeth yn parhau i ysbrydoli pobl yn hyn—pobl yn dylunio ac yn gwneud mygydau wyneb, er enghraifft, a'r grŵp gwau a chrosio gwych, Prosecco and Purls, sydd wedi bod yn brysur drwy'r pandemig yn creu gardd hud yng Nghaerllion i gefnogi sefydliad hosbis Dewi Sant ac yn dod â fflach o obaith a hwyl i'r pentref.
Er bod y mynegiant hwn wedi bod yn gadarnhaol, ni ellir gwadu y gall y newid sydyn hwn yn ein ffordd arferol o fyw fod yn destun pryder mawr ac mae wedi cael effaith fawr ar ein hiechyd meddwl. Defnyddiwyd y celfyddydau i ddangos hyn hefyd. Rydym wedi gweld grwpiau fel Cyngor Ieuenctid Casnewydd yn mynd i'r afael â'r problemau hyn drwy gelfyddyd, gyda fideo pwerus ynglŷn â sut roedd cyfyngiadau'n effeithio arnynt hwy. Mae llawer o astudiaethau wedi dangos y gall cymryd rhan mewn gweithgareddau artistig, naill ai fel sylwedydd neu gyfranogwr, wella hwyliau person, yn ogystal â chynnig manteision seicolegol eraill drwy ryddhau endorffinau naturiol o amgylch y corff. Olrheiniwyd carfan o 72,000 o oedolion ledled y DU bob wythnos mewn astudiaeth gan Goleg Prifysgol Llundain. Canfu fod pobl a dreuliai 30 munud neu fwy bob dydd yn ystod y pandemig ar weithgareddau celfyddydol fel darllen er pleser, gwrando ar gerddoriaeth neu gymryd rhan mewn hobi creadigol yn profi cyfraddau is o iselder a phryder a mwy o foddhad mewn bywyd. Yn syml, os bu blwyddyn erioed i bawb ohonom fod yn greadigol, 2020 yw'r flwyddyn honno yn sicr.
Mae'n arbennig o greulon, felly, fod ein sector celfyddydau wedi cael ei daro'n ddrwg gan effaith COVID. Mae mesurau iechyd fel cadw pellter cymdeithasol a chyfyngiadau ar gynulliadau grŵp wedi gweld ein canolfannau celf traddodiadol yn cael eu cyfyngu neu eu cau. Mae cyfleusterau cyhoeddus a gwasanaethau hanfodol, lle mae llawer yn dianc rhag teimladau o unigedd neu wedi cael cysur o fod yn greadigol, wedi wynebu anawsterau. Mae ein theatrau, lleoliadau cerddoriaeth, ysgolion dawns, amgueddfeydd, orielau celf a chanolfannau cymunedol, hyd yn oed corau, bandiau a dosbarthiadau celf, i gyd wedi gorfod cyfyngu'n ddifrifol ar eu gweithgareddau. Maent wedi bod yn gweithio'n galed i gadw pobl mewn cysylltiad, a bydd rhai digwyddiadau, fel gŵyl gaeaf y Gelli a Chelf ar y Bryn Casnewydd yn mynd rhagddynt, ond mewn ffordd wahanol iawn. Maent yn dibynnu ar bobl yn dod at ei gilydd, felly mae'r celfyddydau wedi wynebu rhai o'r heriau strwythurol mwyaf enbyd mewn unrhyw ddiwydiant. Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Senedd wedi canfod bod perygl i Gymru golli cenhedlaeth gyfan o artistiaid a dadwneud blynyddoedd o waith cadarnhaol a buddsoddiad. Rwy'n ddiolchgar fod Llywodraeth Cymru yn helpu'r rhai yn y sector drwy'r gronfa adferiad diwylliannol, ond mae'n rhaid inni barhau i yrru'r cymorth hwn, gan ei bod yn hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau eu bod yn dal yno mewn byd ôl-COVID.
Fel llawer o ddiwydiannau, mae wedi bod yn galonogol gweld sut y mae sefydliadau wedi mynd ati'n gyflym i greu ffyrdd newydd o weithio a faint sydd wedi ymdrechu i estyn allan at gymunedau na allant ymweld â hwy'n bersonol mwyach. Gellir gwneud hyn mewn ffyrdd mwy traddodiadol, ond hefyd, drwy addasu a defnyddio technolegau newydd, gallwn ddefnyddio'r celfyddydau i helpu i gynnal iechyd meddwl da a llesiant. Mae cynifer o enghreifftiau o arferion da ledled Cymru, ac roeddwn am ddefnyddio fy amser heddiw i dynnu sylw at rywfaint o'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud yma.
Mae'r rhaglen Celf ar y Blaen, Iechyd ar y Blaen, wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau cymunedol gwirfoddol sy'n cynnig profiadau creadigol o bell i'r rhai sydd â'r angen mwyaf, fel y rhai nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd. Mae hyn yn cynnwys cynnig pecynnau crefft, wedi'u cynnwys gyda nwyddau ar garreg y drws, a chyfathrebu â phobl hŷn drwy'r post a thros y ffôn. Mae Impelo@HOME ym Mhowys yn cynnig DVDs i gartrefi gofal a chanolfannau dydd sy'n cefnogi oedolion ag anableddau i fynd i'r afael â phroblemau gyda dod o hyd i wasanaethau ar-lein. Lansiwyd y rhaglen yn uniongyrchol yn sgil adborth cymunedol a ddywedai eu bod am ddawnsio, gyda'r ymarferwyr yn gwneud dosbarthiadau tebyg i'r rhai yr arferent eu mynychu. Mae Ymgolli mewn Celf, prosiect i bobl sy'n byw gyda dementia a grëwyd gan Hamdden Sir Ddinbych, yn cynnig deunydd dementia i'r rhai sy'n byw yn y gymuned, pecynnau a ddosberthir ar garreg eu drws, ffilm diwtorial wythnosol a anfonir atynt drwy e-bost, ac mae'n cynnig dwy alwad ffôn yr wythnos—un alwad llinell dir, un alwad FaceTime neu WhatsApp—i gefnogi aelodau yn eu hymarfer creadigol. Mae llawer o sefydliadau celfyddydol ac ymarferwyr hefyd wedi newid i ddarparu gwasanaethau ar-lein, ac wedi gallu cynnal dosbarthiadau gan ddefnyddio llwyfannau ar-lein fel Zoom, YouTube a'r cyfryngau cymdeithasol.
Mae ymgysylltu ar-lein yn ffordd effeithiol o sicrhau bod pobl yn parhau i fod mewn cysylltiad â'i gilydd ac yn parhau i gymryd rhan mewn gweithgarwch creadigol. Mae enghreifftiau'n cynnwys Bale Cymru, sydd wedi'i leoli yng Nghasnewydd. Mae llawer o waith cyffrous ar eu sianelau cyfryngau cymdeithasol, sesiynau tiwtorial drwy fideo i fyfyrwyr, cyfweliadau, dosbarthiadau pwyntio, ymestyn ac ymlacio, ymarferion cryfder a dangos cynyrchiadau blaenorol yn wythnosol. Mewn cydweithrediad â Jukebox Collective, NEW Dance, Dawns i Bawb, Arts Care Gofal Celf ac Impelo, maent i gyd wedi bod yn parhau ac yn cefnogi eu rhaglen Duets genedlaethol. Maent hefyd wedi bod yn cyflwyno gwaith i blant sy'n agored i niwed ar raglen drwy gyfrwng Zoom.
Mae Rubicon Dance, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, yn annog pobl i gymryd rhan mewn dawns, gan gynnwys teuluoedd, plant a phobl ifanc, pobl anabl, yr henoed, cleifion yn yr ysbyty, goroeswyr strôc a phobl sy'n byw gyda dementia. Ers mis Mawrth, ac mewn ymateb i argyfwng COVID, mae Rubicon wedi cynnal cyswllt cymdeithasol wythnosol gyda'u 2,000 o gyfranogwyr rheolaidd. Wedi'u harwain gan y galw i barhau i ddawnsio, maent wedi gorfod ailystyried yn gyflym sut i gyflawni'r hyn a wnânt, yn enwedig i bobl sy'n wynebu amrywiaeth o rwystrau o ran cyfathrebu a TG. Maent yn defnyddio nifer o ffyrdd o wneud hynny, fel sy'n briodol i anghenion y cyfranogwyr, gan gynnwys sgyrsiau ffôn, testun, Zoom, Facebook. Ar hyn o bryd maent yn darparu 63 o sesiynau dawns ar-lein wythnosol, ac o'r adborth a gawsant, mae cymryd rhan yn y sesiynau wythnosol hyn yn cadw pobl yn symudol, yn gwella ffitrwydd a lles cyffredinol. Disgrifiodd un cyfranogwr sut roedd COVID wedi gwneud iddi deimlo ei bod wedi'i gadael ar ynys ac mai ei sesiynau Rubicon wythnosol yw'r hyn a'i cadwodd i fynd.
Mae'r côr Forget-me-not yn enghraifft wych o elusen yn gweithio gyda phobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd, gan ddod â hwy at ei gilydd i ganu. Mae gweld yr effaith ar y bobl yng nghôr Forget-me-not yn rhywbeth arbennig iawn. Mae'r cysylltiad rhwng pobl, symud i'r gerddoriaeth a chanu yn wych, ynghyd â'r pleser pur sy'n amlwg yn rhywbeth na ellir ei brynu. Drwy gydol y pandemig, mae côr Forget-me-not wedi symud eu rhaglenni ar-lein, ac maent wedi gallu cyrraedd hyd yn oed mwy o bobl sy'n byw gyda dementia drwy eu ffilmiau rhithwir, yn ogystal â'u sesiynau i gartrefi gofal a sesiynau Zoom cymunedol. Mae dros 70 o gartrefi ledled Cymru wedi cael mynediad at eu hymarferion rhithwir, ac maent bellach yn cysylltu â chartrefi gofal yn Lloegr i gynnig eu hadnoddau am ddim. Ar ben hyn i gyd, maent newydd orffen ffilmio pedwar ymarfer rhithwir newydd, gan gynnwys ffefrynnau fel yr Hokey Cokey, a fydd, yn eu geiriau hwy, yn annog staff a thrigolion i ganu a 'shake it all about'. Diolch i bŵer Zoom, maent bellach yn croesawu pobl o mor bell â Dyfnaint a Cumbria i gymryd rhan.
Rwy'n arbennig o falch o glywed am ymdrechion sefydliadau celfyddydol i gefnogi'r bobl sy'n byw mewn cartrefi gofal. Maent wedi cael eu taro'n galed gan y pandemig. Mae ymweliadau cyfyngedig wedi bod yn anodd ar breswylwyr a theuluoedd fel ei gilydd, ac o ran gweithgareddau, dibynnai llawer ar sefydliadau allanol yn dod i mewn i ddarparu dosbarthiadau wythnosol, ac ni ellir gwadu eu budd yn fy marn i. Efallai fod yr Aelodau wedi gweld fideo a aeth yn firol yn ddiweddar ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Mae'n dangos cyn-ddawnswraig bale gyda chlefyd Alzheimer yn cofio'r gerddoriaeth yr arferai ddawnsio iddi. Gellir gweld Marta González yn adnabod Swan Lake Tchaikovsky ar unwaith. Wrth wrando arno o'i chadair olwyn, mae'n dechrau dawnsio gyda'i breichiau. Mae'n anhygoel o ingol, gan ddangos grym cerddoriaeth a dawns.
Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cysylltedd ar-lein i bobl hŷn, a chyflwynwyd cannoedd o ddyfeisiau digidol i gartrefi gofal ledled Cymru yn gynharach eleni. Mae hyn yn mynd i chwarae rhan bwysig iawn yn cadw preswylwyr mewn cysylltiad â'u teuluoedd a'u cymunedau. Fodd bynnag, er bod llawer o wasanaethau wedi gallu symud ar-lein, mae perygl o gynyddu'r gagendor digidol i'r bobl nad oes ganddynt y seilwaith, y sgiliau na'r hyblygrwydd ariannol i gael y rhyngrwyd gartref.
Mae mor bwysig, felly, ein bod yn parhau i ddarparu gwell seilwaith digidol ledled Cymru i gefnogi cynwysoldeb ac i ddarparu hyfforddiant a'r sgiliau i'r rhai sydd eu hangen. Dros y blynyddoedd diwethaf, cafwyd dealltwriaeth gynyddol o'r effaith y gall cymryd rhan yn y celfyddydau ei chael ar iechyd a lles. Drwy gynnig rhywbeth ychwanegol at feddyginiaeth a gofal, gall y celfyddydau wella iechyd pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl neu gorfforol. Mae Growing Space, sydd wedi'i leoli ar dir Tŷ Tredegar Casnewydd, yn cynnwys therapi garddwriaethol a hyfforddiant i gefnogi pobl gyda'u hiechyd meddwl. Yn ystod y pandemig, mae'r gweithwyr wedi mynd y tu hwnt i gefnogi cyfranogwyr Growing Space. Creodd Mark Richardson, swyddog datblygu cymunedol 'Mannau Agored, Meddwl Agored', grŵp WhatsApp i ganiatáu i gyfranogwyr gadw mewn cysylltiad â'i gilydd yn ogystal â staff. Roedd defnyddio'r cyfrwng hwn, a dulliau digidol eraill fel posau, cwisiau, ysgrifennu creadigol a llawer mwy o weithgareddau bob dydd yn sicrhau eu bod yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnynt. Gwnaeth Lee Davies, y goruchwyliwr gwaith coed, gannoedd o eitemau ar gyfer y GIG. Gwnaeth eitemau hefyd i'r timau iechyd meddwl eu hychwanegu at eu pecynnau llesiant, megis blychau adar i'w gosod at ei gilydd, yn ogystal ag eitemau eraill i roi gweithgareddau creadigol i gleifion ar lawer o'r wardiau seiciatrig ledled Gwent.
Mae'r enghreifftiau hyn yn dangos y gall y celfyddydau fod yn bwysig iawn i ddatblygu iechyd meddwl a chorfforol pob dinesydd. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar y celfyddydau ac iechyd, roeddwn yn falch fod Cydffederasiwn GIG Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi adnewyddu eu memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn ddiweddar, gan ddangos eu hymrwymiad i ymgorffori mentrau celfyddydol ac iechyd ar draws y GIG yng Nghymru. Dyma'r math o waith yr hoffwn ei weld yn cael ei ymgorffori yn ymateb 'adeiladu nôl yn well' Llywodraeth Cymru i COVID. Bydd yn bwysig parhau i adeiladu ar y gwaith gwirioneddol gadarnhaol sy'n amlwg yn digwydd, ac edrych y tu hwnt i'r pandemig i sicrhau bod y mentrau hyn yn rhan greiddiol o ddull ataliol Cymru o ymdrin ag iechyd a gofal ar gyfer y dyfodol.
Mae angen inni ddod drwy'r argyfwng hwn drwy gynnal ein lles gystal ag y gallwn. Mae'r celfyddydau'n hanfodol ar gyfer hynny nawr, a byddant yn hanfodol ar gyfer hynny yn y dyfodol. Ni ellir gorddatgan gwerth a phwysigrwydd y sector hwn. Mae'r manteision yn aruthrol. Os byddwn yn colli neu'n methu defnyddio'r sgiliau hyn, byddwn yn dlotach o lawer ein byd. Rwyf wedi tynnu sylw at rai o'r prosiectau sy'n digwydd heddiw yng Nghymru, ac mae cymaint mwy, cymaint fel y gallech orchuddio map o Gymru â hwy. Mae'r celfyddydau'n chwarae rhan hollbwysig yn ein lles meddyliol a chorfforol. Gallant helpu i leihau anghydraddoldebau ac os gallwn harneisio eu pŵer, gallant helpu Cymru i wella o'r pandemig.
Yma yng Nghymru, mae cerddoriaeth, celf a diwylliant yn rhan o'n cyfansoddiad. Yn ein hanthem genedlaethol ein hunain, cawn ein hadnabod fel gwlad beirdd a chantorion. Hir y parhaed hynny. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi alw ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i ymateb i'r ddadl? Dafydd Elis-Thomas.
Diolch yn fawr, Jayne. Roedd hwnnw'n anerchiad ysbrydoledig a grynhodd gymaint o'r gweithgarwch diwylliannol sy'n digwydd yng Nghymru nawr, ac rwy'n falch iawn eich bod wedi'i roi yn y Cofnod ar gyfer y dyfodol.
Felly, gaf i ddiolch i Jayne am ei haraith? Gaf i ddiolch hefyd am ei chefnogaeth i gelf ac i bwysigrwydd y celfyddydau ym mywyd gwleidyddol Cymru ar hyd ei chyfnod fel Aelod Cynulliad? Diolch iddi hefyd am gyfeirio at yr holl weithgaredd sydd yn digwydd yng Nghasnewydd. Dwi wedi bod yn falch o'r cyfle i fod yn ei chwmni hi yn ymweld â rhai o'r canolfannau yma a oedd hi'n cyfeirio atyn nhw. Dwi'n cydnabod mor bwysig mae swyddogaeth Casnewydd a'r gweithgaredd sydd yn digwydd yno.
Ond beth garwn i ddweud fel ymrwymiad iddi wrth ymateb i'r ddadl fer ydy fy mod i'n cytuno'n llwyr â hi ein bod ni wedi darganfod ffordd newydd o weithio, a ffordd newydd o ddeall beth yw diben celfyddyd yn y gymdeithas—ffordd na allwn ni ddim fforddio ei anghofio. Dyna pam bod hi wedi bod mor bwysig i mi weld gymaint o ymateb sydd wedi bod i'r gronfa adferiad diwylliannol, fel dywedais i'n gynharach heddiw yma, ac i'r pecyn ychwanegol drwy gronfa gwytnwch y celfyddydau, sydd ar hyn o bryd yn parhau—wel, sydd ar hyn o bryd wedi rhedeg mas, a dweud y gwir, ac rydym ni’n chwilio am gyllid ychwanegol i sicrhau ein bod ni'n dal i allu cefnogi’r ceisiadau rydym ni’n eu derbyn.
Mae Llywodraeth Cymru'n mynd i barhau i gefnogi’r sector i ailagor drwy ddefnyddio celf fel allwedd i ddod mas o’r cyfnod clo, oherwydd mae’r ymwybyddiaeth sy’n dod drwy gelfyddyd wedi ei brofi i fod yn hanfodol i bobl yn yr argyfwng hwn. Ac er bod ein theatrau a’n neuaddau cyngerdd ni wedi bod ar gau, mae pobl wedi darganfod o’r newydd ddulliau eraill o gyfathrebu celf. A phan fydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn caniatáu, rwy’n sicr y bydd y dulliau yma'n parhau i gael eu defnyddio, yn ogystal â’r dulliau traddodiadol sydd ddim wedi bod yn bosib yn y cyfwng yma. Mi gafodd ein rhaglen ni fel Llywodraeth o ddigwyddiadau profi ei ohirio ym mis Medi, ond mae’r cynllun yna o hyd, cynllun clir o ail-agor, ac mi fyddwn ni’n datblygu’r cynllun yna gan ddysgu oddi wrth yr ymdrechion amlwg sydd yn digwydd yn y gymuned yn wirfoddol yn barod.
Dwi’n ddiolchgar am y cydweithio sydd wedi bod rhwng adran iechyd Llywodraeth Cymru a chyngor y celfyddydau ynglŷn â phresgripsiynau cymdeithasol. Dwi’n ddiolchgar hefyd am yr holl waith arloesol y cyfeiriodd Jayne ato sydd yn cynnwys yr holl gwmnïau y gwnaeth hi eu henwi—Theatr y Sherman, y gyfres sain Heart of Cardiff; Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ar y cyd gyda English National Ballet; sesiynau Dance for Parkinson's ar-lein ac ar Zoom; a chysylltiad Cwmni Theatr Arad Goch gydag ysgolion yn dal i ddefnyddio adnoddau digidol yn ystod y cyfnod clo. Ac mae prosiect Celf ar y Cyd wedi bod yn un trawiadol iawn i mi, rhwng cyngor y celfyddydau a’r amgueddfa genedlaethol, gyda’n cefnogaeth ni fel Llywodraeth i sicrhau bod pobl yn gweld celf yn yr ysbytai, a bod gweld celf yn yr ysbytai o’r newydd yn dod yn rhan o’r arwydd o rôl celf mewn iechyd.
Un llwyddiant mawr arall y gwnaf i ei enwi cyn darfod yr ymateb yma ydy adrodd storïau digidol Bae Abertawe, sydd yn cael ei gyflwyno bellach ar draws byrddau eraill y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru. Mae’r prosiect yma'n caniatáu i’r rhai hynny sydd yn wael greu stori glaf ddigidol, fel rhan o ymrwymiad y bwrdd iechyd i wrando ar a dysgu o’u profiadau nhw. Mae’r dulliau newydd yma o weithio'n mynd i barhau gyda ni ar gyfer y dyfodol.
Felly, diolch am yr holl waith da y mae cyngor y celfyddydau wedi ei wneud, yn cydweithio, fel y dywedodd Jayne, efo adnoddau celfyddydol ar-lein, y gofal iechyd ar draws y gwasanaeth iechyd gwladol yn cydweithio gyda chelf. Mae Llywodraeth Cymru'n ymrwymo i barhau gyda’r gwaith yma, nid cyhyd ag y bod angen i ddod allan o’r argyfwng yma, ond fel ffordd ymarferol o weithredu o hyn ymlaen. Oherwydd fy nghefndir yn y gorffennol, dwi wedi bod yn ceisio dadlau dros y blynyddoedd bod yna rôl arbennig i gelfyddyd, ac roedd hi’n dalcen caled weithiau. Roedd pobl yn dweud, ‘Wel, beth gall y celfyddydau ei gyflawni?’ Does neb yn dweud hynny heddiw. Felly diolch i Jayne am roi'r cyfan yma ar y Record. Diolch i’r Aelodau am y drafodaeth arall y cawson ni'n gynharach y prynhawn yma, a heb dynnu, wrth gwrs, oddi wrth beth rydw i wedi ei ddweud yn barod, mae’n rhaid i mi ddweud un peth: nid yn unig ydw i’n Weinidog celfyddyd, ond dwi’n Weinidog chwaraeon, ac felly gaf i ddymuno pob hwyl i Gareth Bale a gweddill y tîm heno? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.