Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Er bod y mynegiant hwn wedi bod yn gadarnhaol, ni ellir gwadu y gall y newid sydyn hwn yn ein ffordd arferol o fyw fod yn destun pryder mawr ac mae wedi cael effaith fawr ar ein hiechyd meddwl. Defnyddiwyd y celfyddydau i ddangos hyn hefyd. Rydym wedi gweld grwpiau fel Cyngor Ieuenctid Casnewydd yn mynd i'r afael â'r problemau hyn drwy gelfyddyd, gyda fideo pwerus ynglŷn â sut roedd cyfyngiadau'n effeithio arnynt hwy. Mae llawer o astudiaethau wedi dangos y gall cymryd rhan mewn gweithgareddau artistig, naill ai fel sylwedydd neu gyfranogwr, wella hwyliau person, yn ogystal â chynnig manteision seicolegol eraill drwy ryddhau endorffinau naturiol o amgylch y corff. Olrheiniwyd carfan o 72,000 o oedolion ledled y DU bob wythnos mewn astudiaeth gan Goleg Prifysgol Llundain. Canfu fod pobl a dreuliai 30 munud neu fwy bob dydd yn ystod y pandemig ar weithgareddau celfyddydol fel darllen er pleser, gwrando ar gerddoriaeth neu gymryd rhan mewn hobi creadigol yn profi cyfraddau is o iselder a phryder a mwy o foddhad mewn bywyd. Yn syml, os bu blwyddyn erioed i bawb ohonom fod yn greadigol, 2020 yw'r flwyddyn honno yn sicr.
Mae'n arbennig o greulon, felly, fod ein sector celfyddydau wedi cael ei daro'n ddrwg gan effaith COVID. Mae mesurau iechyd fel cadw pellter cymdeithasol a chyfyngiadau ar gynulliadau grŵp wedi gweld ein canolfannau celf traddodiadol yn cael eu cyfyngu neu eu cau. Mae cyfleusterau cyhoeddus a gwasanaethau hanfodol, lle mae llawer yn dianc rhag teimladau o unigedd neu wedi cael cysur o fod yn greadigol, wedi wynebu anawsterau. Mae ein theatrau, lleoliadau cerddoriaeth, ysgolion dawns, amgueddfeydd, orielau celf a chanolfannau cymunedol, hyd yn oed corau, bandiau a dosbarthiadau celf, i gyd wedi gorfod cyfyngu'n ddifrifol ar eu gweithgareddau. Maent wedi bod yn gweithio'n galed i gadw pobl mewn cysylltiad, a bydd rhai digwyddiadau, fel gŵyl gaeaf y Gelli a Chelf ar y Bryn Casnewydd yn mynd rhagddynt, ond mewn ffordd wahanol iawn. Maent yn dibynnu ar bobl yn dod at ei gilydd, felly mae'r celfyddydau wedi wynebu rhai o'r heriau strwythurol mwyaf enbyd mewn unrhyw ddiwydiant. Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Senedd wedi canfod bod perygl i Gymru golli cenhedlaeth gyfan o artistiaid a dadwneud blynyddoedd o waith cadarnhaol a buddsoddiad. Rwy'n ddiolchgar fod Llywodraeth Cymru yn helpu'r rhai yn y sector drwy'r gronfa adferiad diwylliannol, ond mae'n rhaid inni barhau i yrru'r cymorth hwn, gan ei bod yn hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau eu bod yn dal yno mewn byd ôl-COVID.
Fel llawer o ddiwydiannau, mae wedi bod yn galonogol gweld sut y mae sefydliadau wedi mynd ati'n gyflym i greu ffyrdd newydd o weithio a faint sydd wedi ymdrechu i estyn allan at gymunedau na allant ymweld â hwy'n bersonol mwyach. Gellir gwneud hyn mewn ffyrdd mwy traddodiadol, ond hefyd, drwy addasu a defnyddio technolegau newydd, gallwn ddefnyddio'r celfyddydau i helpu i gynnal iechyd meddwl da a llesiant. Mae cynifer o enghreifftiau o arferion da ledled Cymru, ac roeddwn am ddefnyddio fy amser heddiw i dynnu sylw at rywfaint o'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud yma.
Mae'r rhaglen Celf ar y Blaen, Iechyd ar y Blaen, wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau cymunedol gwirfoddol sy'n cynnig profiadau creadigol o bell i'r rhai sydd â'r angen mwyaf, fel y rhai nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd. Mae hyn yn cynnwys cynnig pecynnau crefft, wedi'u cynnwys gyda nwyddau ar garreg y drws, a chyfathrebu â phobl hŷn drwy'r post a thros y ffôn. Mae Impelo@HOME ym Mhowys yn cynnig DVDs i gartrefi gofal a chanolfannau dydd sy'n cefnogi oedolion ag anableddau i fynd i'r afael â phroblemau gyda dod o hyd i wasanaethau ar-lein. Lansiwyd y rhaglen yn uniongyrchol yn sgil adborth cymunedol a ddywedai eu bod am ddawnsio, gyda'r ymarferwyr yn gwneud dosbarthiadau tebyg i'r rhai yr arferent eu mynychu. Mae Ymgolli mewn Celf, prosiect i bobl sy'n byw gyda dementia a grëwyd gan Hamdden Sir Ddinbych, yn cynnig deunydd dementia i'r rhai sy'n byw yn y gymuned, pecynnau a ddosberthir ar garreg eu drws, ffilm diwtorial wythnosol a anfonir atynt drwy e-bost, ac mae'n cynnig dwy alwad ffôn yr wythnos—un alwad llinell dir, un alwad FaceTime neu WhatsApp—i gefnogi aelodau yn eu hymarfer creadigol. Mae llawer o sefydliadau celfyddydol ac ymarferwyr hefyd wedi newid i ddarparu gwasanaethau ar-lein, ac wedi gallu cynnal dosbarthiadau gan ddefnyddio llwyfannau ar-lein fel Zoom, YouTube a'r cyfryngau cymdeithasol.