Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Weinidog, nododd yr adolygiad o’r llifogydd a gynhaliwyd gan CNC yn gynharach eleni fod 12 rhybudd rhag llifogydd wedi cael eu cyhoeddi’n hwyr, ac na chafodd rhai ardaloedd rybudd rhag llifogydd o gwbl. Weithiau, gallwn ganolbwyntio ar y prosiectau seilwaith mawr a rhai o'r materion mwy sy'n ymwneud â llifogydd, ond os na allwch wneud y pethau syml yn iawn, fel rhybuddio'r cyhoedd i fod yn barod a gwneud paratoadau, bydd hynny'n tanseilio’r holl broses o baratoi ar gyfer llifogydd. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ryngweithio â Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod yr agwedd benodol hon ar y system atal llifogydd, rhybuddio cynnar a synhwyro yn ddibynadwy, yn wydn, ac yn rhybuddio cymunedau am berygl llifogydd sydd mor ddinistriol i leoedd fel y Rhondda a Nantgarw ym Mhontypridd?