1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 18 Tachwedd 2020.
2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau'r perygl o lifogydd yn y Rhondda? OQ55863
Diolch. Mae cyllid wedi’i gymeradwyo ar gyfer 25 o brosiectau lliniaru llifogydd ar draws Rhondda Cynon Taf eleni, sef cyfanswm o £1.9 miliwn. Mae hyn yn cynnwys £303,450 rwyf wedi'i gymeradwyo'n ddiweddar i osod mesurau gwrthsefyll llifogydd ar lefel eiddo mewn 357 o gartrefi yn y Rhondda. Rwyf hefyd wedi darparu £1.6 miliwn o gyllid brys i RhCT ar gyfer gwaith atgyweirio yn dilyn stormydd eleni.
Yn ystod y mis diwethaf, mae Cyfoeth Naturiol Cymru eich Llywodraeth chi wedi cyhoeddi adroddiadau ar lifogydd eleni, ac yn amlwg, mae fy niddordeb i yn ymwneud â’r Rhondda. Ychydig o bobl oedd yn synnu na chanfu CNC fod unrhyw fai arnynt hwy eu hunain yn yr adroddiadau hynny. Yr agosaf a ddaethant at gyfaddef unrhyw gyfrifoldeb oedd pan ddywedasant nad oedd ganddynt ddigon o arian i ymateb i raddfa’r digwyddiadau mis Chwefror, rhywbeth y gobeithiaf i chi ei glywed a'i ystyried yn ofalus iawn, Weinidog. Nawr, mae'n amlwg i mi ac i lawer o bobl eraill a lofnododd ddeiseb mai dim ond ymchwiliad annibynnol fydd yn mynd at wraidd yr hyn a ddigwyddodd ac yn cynnig atebion parhaol a fydd yn ystyried yr argyfwng hinsawdd, a dyna fydd ein gobaith gorau o atal y math hwn o beth rhag digwydd i gymunedau yma yn y Rhondda eto. Safbwynt y blaid Lafur yn San Steffan yn gynharach eleni oedd cefnogi ymchwiliad i lifogydd mewn cymunedau yn Lloegr. Pam nad yw ymchwiliad o’r fath yn ddigon da i bobl yma yng Nghymru? A wnewch chi gefnogi ymchwiliad annibynnol nawr? Neu a wnewch chi egluro i bobl yn y Rhondda beth ydych chi'n ofni y gallai ymchwiliad o'r fath ei ddatgelu?
Nid oes ofn arnaf o gwbl, a na, nid wyf am ymrwymo i adolygiad annibynnol ar hyn o bryd am y rhesymau rwyf wedi’u nodi wrthych yn y Siambr hon ac am y rhesymau rwyf wedi’u nodi wrthych mewn gohebiaeth. Rydym yn aros am adroddiadau ymchwiliad adran 19. Maent yn ddyletswydd ar yr awdurdod lleol, fel y gwyddoch, a byddant yn darparu eglurder ynghylch y rhesymau am y llifogydd, yn ogystal â sut y bydd yr awdurdodau rheoli perygl yn gweithredu. Nid wyf yn cydnabod eich sylwadau ar adroddiad CNC. Roeddwn o’r farn ei fod yn asesiad gonest iawn o'u perfformiad eu hunain, sut roeddent yn credu y gallent wneud gwelliannau, ac nid oedd yn ymwneud â chyllid yn unig. Roeddwn yn credu bod yr adroddiad—. Nid fi gomisiynodd yr adroddiad hwnnw, ond credaf y bydd y canfyddiadau'n ategu ymchwiliadau'r awdurdod lleol ac yn helpu i gefnogi’r gwaith o reoli perygl llifogydd yn y dyfodol. Mae'n rhaid i bob un ohonom dderbyn ein bod, gyda'r argyfwng hinsawdd, yn mynd i weld y mathau hyn o ddigwyddiadau a welsom ym mis Chwefror, ac rydym yn ceisio ein gorau glas i sicrhau bod RhCT wedi derbyn yr arian y gofynnwyd amdano. Soniais am yr arian ychwanegol rwyf wedi’i ddarparu’r wythnos hon ar gyfer gwrthsefyll llifogydd ar lefel eiddo, fel y gall pobl sy'n teimlo bod ei angen arnynt yn eu cartrefi fynd at eu hawdurdod rheoli risg a gofyn am y cyllid, a chael beth bynnag sy'n ofynnol wedi'i osod yn iawn. Ni chredaf—. Cyfrifoldeb unigolion fyddai cyflwyno'r cais hwnnw, a dyna'n union rydym wedi'i wneud.
Weinidog, nododd yr adolygiad o’r llifogydd a gynhaliwyd gan CNC yn gynharach eleni fod 12 rhybudd rhag llifogydd wedi cael eu cyhoeddi’n hwyr, ac na chafodd rhai ardaloedd rybudd rhag llifogydd o gwbl. Weithiau, gallwn ganolbwyntio ar y prosiectau seilwaith mawr a rhai o'r materion mwy sy'n ymwneud â llifogydd, ond os na allwch wneud y pethau syml yn iawn, fel rhybuddio'r cyhoedd i fod yn barod a gwneud paratoadau, bydd hynny'n tanseilio’r holl broses o baratoi ar gyfer llifogydd. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ryngweithio â Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod yr agwedd benodol hon ar y system atal llifogydd, rhybuddio cynnar a synhwyro yn ddibynadwy, yn wydn, ac yn rhybuddio cymunedau am berygl llifogydd sydd mor ddinistriol i leoedd fel y Rhondda a Nantgarw ym Mhontypridd?
Soniais fy mod yn credu bod yr adroddiad y mae CNC wedi'i gyflwyno yn asesiad gonest iawn o’u perfformiad, ac rwyf wedi cyfarfod â hwy i gychwyn ei drafod. A ddydd Llun nesaf—rwy’n credu mai dydd Llun nesaf ydyw; wythnos nesaf, yn sicr—byddaf yn cyfarfod â'r cadeirydd a'r prif weithredwr i gael trafodaeth o sylwedd ynghylch yr adroddiad a pha gamau sydd angen eu cymryd.
Credaf fod yn rhaid inni gydnabod mai stormydd mis Chwefror, sef yr hyn roedd yr adroddiad hwn yn seiliedig arno yn bennaf, oedd y rhai gwaethaf inni eu gweld mewn rhannau o Gymru ers 40 mlynedd. Ac nid esgus yw hynny; rwyf ond yn dweud bod yn rhaid inni gofio mai dyna roeddem yn ymdrin ag ef. Cawsom lifogydd mewn dros 3,000 yn anffodus, a gwelais y dinistr, ac rwy'n siŵr i chi ei weld hefyd, ac rydym am wneud popeth y gallwn ei wneud i osgoi hynny. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar yr adroddiad hwnnw'n fanwl iawn, a dyna mae swyddogion wedi bod yn ei wneud ers inni ei gael oddeutu mis yn ôl. Byddaf yn cael y drafodaeth honno gyda CNC, ac rwy’n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.
Weinidog, yn ardal Pontypridd a Thaf Elái, rydym yn amlwg yn edrych ymlaen at yr wyth adroddiad adran 19 a fydd yn cael eu paratoi nawr gan Rondda Cynon Taf, a fydd yn bwysig iawn wrth bennu camau atal a chamau gweithredu yn y dyfodol ac ati. Mae un o'r materion sydd wedi codi yn yr oddeutu 30 o gyfarfodydd rwyf i a'r AS lleol wedi'u cael gyda chymunedau, busnesau ac yn y blaen yn ardal Pontypridd a Thaf Elái yn ymwneud â'r pethau y gellir eu gwneud nawr i roi mwy o wytnwch i’r cymunedau yr effeithiwyd arnynt. Un o'r materion, wrth gwrs, yw pethau fel gatiau llifogydd ac ati, ac oherwydd mai llifogydd o afonydd, yn bennaf, a gafwyd ym Mhontypridd a Thaf Elái, credaf mai cyfrifoldeb CNC yw hynny. Nawr, rwyf wedi dwyn y mater i'w sylw, a deallaf eu bod wedi bod yn cyfarfod â chi i drafod mater cyllido a darparu adnoddau gwrthsefyll llifogydd ychwanegol i'r cymunedau yr effeithir arnynt ym Mhontypridd a Thaf Elái. Tybed a allech amlinellu canlyniad y trafodaethau rydych wedi'u cael?
Mae'r trafodaethau hynny'n parhau. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud fy mod yn cyfarfod â hwy eto yr wythnos nesaf. Fodd bynnag, mae'r cyllid y cyfeiriwch ato yno iddynt wneud cais amdano. Felly, soniais fy mod newydd ddyrannu £305,000 yn ychwanegol ddechrau'r wythnos yn uniongyrchol i RhCT ar gyfer mesurau gwrthsefyll llifogydd ar lefel eiddo, ac mae’r cyllid hwnnw’n sicr ar gael i CNC wneud cais amdano hefyd. Felly, unwaith eto, mae'r trafodaethau hynny'n parhau. Byddaf yn cael cyfarfod arall yr wythnos nesaf, ond mae'r cyllid ar gael nawr.