Tân Gwyllt

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 18 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:36, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Felly, na, nid ni sy’n gyfrifol am y ddeddfwriaeth hon. Fel y dywedais yn fy ateb i Janet Finch-Saunders, gan na chawsom yr arddangosiadau cyhoeddus rydym fel arfer yn eu gweld eleni, yn anffodus, credaf inni weld mwy o bobl yn prynu tân gwyllt. Yn amlwg, mae siopau papurau newydd, er enghraifft, wedi'u trwyddedu i werthu tân gwyllt. Felly, gallai archfarchnadoedd eu gwerthu, gan eu bod ar werth yn rhywle arall. Dewisodd rhai archfarchnadoedd beidio â gwneud hynny eleni, ac roeddwn o’r farn fod hynny'n beth da iawn i'w wneud. Ond yn amlwg, nid oedd yn anghyfreithlon i ddefnyddio tân gwyllt o fewn y rheoliadau COVID rydym wedi'u cael, ond unwaith eto, mae a wnelo â gofyn i bobl fod yn gall. Ond rwy'n awyddus i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn addas i’r diben, gan fy mod yn siŵr fod pob un ohonom yn cytuno nad yw hynny’n wir ar hyn o bryd.