Tân Gwyllt

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 18 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 1:35, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Fel y mae Hefin a Janet newydd sôn, ymddengys bod Noson Tân Gwyllt yn mynd yn waeth bob blwyddyn—mae’n para’n hirach, mae'n fwy swnllyd, mae’n hwyrach, gyda sŵn bellach yn para tan oriau mân y bore ac am ddyddiau wedyn. Rwy'n bryderus iawn am les ein hanifeiliaid, fel y nododd y ddau siaradwr blaenorol hefyd, yn y cartref a hefyd yn y caeau, yn ogystal ag effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â thân gwyllt, a chreulondeb i anifeiliaid yn sicr. Gwn na all Llywodraeth Cymru wahardd tân gwyllt rhag cael eu gwerthu i'r cyhoedd, ond a yw o fewn cymhwysedd Llywodraeth Cymru i’w cadw ar gyfer arddangosiadau cyhoeddus diogel a thrwyddedig yn unig? Diolch.