Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Diolch, a diolch am gadarnhau eich bod, ym mis Gorffennaf 2019, wedi cynnull grŵp gorchwyl o randdeiliaid allweddol i weithio gyda chi i ddatblygu manylion am strwythur llywodraethu amgylcheddol Cymru ymhellach. Nawr, ar 5 Tachwedd, fe nodoch eich bod yn bwriadu cyhoeddi'r cynigion hyn ar gyfer trefniadau llywodraethu amgylcheddol mwy hirdymor erbyn diwedd y flwyddyn, ochr yn ochr ag adroddiad y grŵp gorchwyl ar lywodraethu amgylcheddol. Er bod hynny ynddo’i hun eisoes yn dynodi oedi i'r addewid gwreiddiol i gyhoeddi argymhellion y grŵp gorchwyl yr hydref hwn, ymddengys bod y grŵp wedi adrodd ym mis Ebrill 2020. Dywedasoch wrthym ddydd Iau diwethaf yn y pwyllgor na ellid sicrhau bod yr adroddiad ar gael oherwydd diffyg capasiti ac adnoddau. A wnewch chi roi mwy o fanylion heddiw ynglŷn â beth yw'r heriau penodol o ran capasiti ac adnoddau sydd wedi golygu na allwch rannu'r adroddiad am saith mis, ac egluro pam eich bod yn gwarafun cyfle i Senedd Cymru graffu ar yr adroddiad a'r argymhellion cyn eich cynigion ar gyfer llywodraethu amgylcheddol?