Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Gwnaf. Credaf imi egluro yr wythnos diwethaf mai'r un grŵp o swyddogion sy'n gweithio ar drefniadau pontio’r UE ag sy'n gweithio ar yr ymateb i COVID-19. Nid ydym wedi dyblu nifer ein swyddogion dros nos. Felly, dyna roeddwn yn ei feddwl wrth ddiffyg capasiti ac adnoddau. Ac nid wyf am warafun cyfle i'r Senedd hon. Byddaf yn cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion a ddaw gan y grŵp gorchwyl, a hefyd yr adroddiad.