Llifogydd yn y Rhondda

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 18 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:37, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Yn ystod y mis diwethaf, mae Cyfoeth Naturiol Cymru eich Llywodraeth chi wedi cyhoeddi adroddiadau ar lifogydd eleni, ac yn amlwg, mae fy niddordeb i yn ymwneud â’r Rhondda. Ychydig o bobl oedd yn synnu na chanfu CNC fod unrhyw fai arnynt hwy eu hunain yn yr adroddiadau hynny. Yr agosaf a ddaethant at gyfaddef unrhyw gyfrifoldeb oedd pan ddywedasant nad oedd ganddynt ddigon o arian i ymateb i raddfa’r digwyddiadau mis Chwefror, rhywbeth y gobeithiaf i chi ei glywed a'i ystyried yn ofalus iawn, Weinidog. Nawr, mae'n amlwg i mi ac i lawer o bobl eraill a lofnododd ddeiseb mai dim ond ymchwiliad annibynnol fydd yn mynd at wraidd yr hyn a ddigwyddodd ac yn cynnig atebion parhaol a fydd yn ystyried yr argyfwng hinsawdd, a dyna fydd ein gobaith gorau o atal y math hwn o beth rhag digwydd i gymunedau yma yn y Rhondda eto. Safbwynt y blaid Lafur yn San Steffan yn gynharach eleni oedd cefnogi ymchwiliad i lifogydd mewn cymunedau yn Lloegr. Pam nad yw ymchwiliad o’r fath yn ddigon da i bobl yma yng Nghymru? A wnewch chi gefnogi ymchwiliad annibynnol nawr? Neu a wnewch chi egluro i bobl yn y Rhondda beth ydych chi'n ofni y gallai ymchwiliad o'r fath ei ddatgelu?