Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Ie, rwy’n sicr yn cydnabod y ffigurau hynny a nododd Janet Finch-Saunders. Yn sicr, profodd fy nghi drallod eleni. Mae hi'n ddwy oed, ac yn sicr, fe’i profodd am y tro cyntaf eleni. Felly, rwy’n llwyr gydnabod y ffigurau hynny. Ac fel y dywedais yn fy ateb i Hefin David, mae'n waith rydym yn bwrw ymlaen ag ef, ond yn anffodus, mae'r ddeddfwriaeth a'r pwerau yn nwylo Llywodraeth y DU. Ond credaf yn sicr na chynhaliwyd arddangosiadau cyhoeddus eleni oherwydd pandemig COVID-19, felly yn sicr, credaf inni weld mwy o bobl yn prynu tân gwyllt fel unigolion, ac roedd fel pe bai’n gyfnod estynedig iawn. Clywais dân gwyllt neithiwr yma yng Nghaerdydd. Felly, yn sicr, credaf fod pobl wedi bod yn eu prynu, ac efallai'n eu defnyddio ar ôl Noson Tân Gwyllt. Felly, fel yr amlinellais yn fy ateb, rwy'n awyddus iawn i fwrw ymlaen â hyn.