Bioamrywiaeth

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 18 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:07, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud ein bod yn wynebu argyfwng bioamrywiaeth yn ogystal ag argyfwng hinsawdd. Un o'r polisïau yw Natura 2000, y soniais amdano yn fy ateb cynharach i Joyce Watson, ac rwy'n falch iawn ein bod, fel rhan o'n hadferiad ar ôl COVID, wedi cymryd camau i gefnogi’r gwaith o gofrestru’r safleoedd Natura 2000 hynny. Maent yn hafan i rai o'n rhywogaethau a'n cynefinoedd mwyaf gwerthfawr sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf. Mae hwn yn gyfle, ac mae'n rhaid inni chwilio am gyfleoedd ymhlith yr holl heriau hynny. Yn sicr, wrth ddod allan o bandemig COVID i mewn i'r cyfnod adfer, mae angen inni ddiogelu'r amgylchedd naturiol; mae'n hollol hanfodol. Ac fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i wneud hynny.