Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Weinidog, mae colli bioamrywiaeth yn un o'r bygythiadau mwyaf sy'n wynebu ein rhywogaethau. Rydym wedi colli cymaint o rywogaethau, ac mae poblogaethau bywyd gwyllt pwysicaf y DU wedi gostwng 60 y cant ers 1970, sy’n syfrdanol.
Bydd y difrod ecolegol yn cael effaith aruthrol ar ddynoliaeth a'n gallu i fwydo ein hunain. Rydym eisoes wedi gweld effaith ein tresmasu ar gynefinoedd eraill—pandemig byd-eang y coronafeirws. Weinidog, sut y bydd eich Llywodraeth yn sicrhau bod ei holl bolisïau'n ystyried yr effaith bosibl y byddant yn ei chael ar fioamrywiaeth fyd-eang?