Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Credaf fod hwnnw'n gwestiwn gwych gan Joyce Watson, a chredaf fod y syniad o goedwig genedlaethol yn un da iawn y mae’n hen bryd ei wireddu, ac mae'n dda ein bod yn datblygu dalfeydd carbon fel coedwig. A gaf fi eich holi ynghylch agwedd ychydig yn wahanol ar fioamrywiaeth sy’n ymwneud ag ansawdd dŵr a'n dyfrffyrdd? Fel hyrwyddwr y Senedd ar ran misglen berlog yr afon, rwyf bob amser yn awyddus i gefnogi bioamrywiaeth, a gwn fod Aelodau eraill, fel hyrwyddwyr eu rhywogaethau eu hunain, yn teimlo'r un fath.
Mae misglen berlog yr afon dan fygythiad gan fod ei chylch oes yn dibynnu ar ddŵr afon pur iawn. Mae llygredd yn ein hafonydd yn effeithio ar lawer o rywogaethau, ac yn ddiweddar, cafwyd problem gyda llygredd yn rhannau uchaf Afon Gwy, yn deillio o ffermydd dofednod, rwy’n credu, yn yr achos hwnnw. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn diogelu ansawdd dŵr yn ein dyfrffyrdd i warchod bioamrywiaeth, er ei lles ei hun ac er lles cenedlaethau'r dyfodol?