Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn ynglŷn â llygredd, a bydd cwestiwn yn nes ymlaen gan eich cyd-Aelod a fy nghyd-Aelod innau, Angela Burns, ynghylch llygredd. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi gosod y rheoliadau llygredd amaethyddol drafft yn gynharach eleni, ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion roi cyngor i mi ynglŷn â'u cyflwyno. Rydym yn gweld lefelau annerbyniol o lygredd ledled Cymru gyfan ac rwy'n cytuno'n llwyr fod y rhain yn annerbyniol ac mae’r rhan fwyaf o bobl, rwy'n siŵr, yn cytuno â ni. Ac yn sicr, y cyngor a gefais gan gomisiwn y DU ar y newid yn yr hinsawdd yw bod angen i ni gyflwyno rheoliadau ar frys.