Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Yr arian y soniais amdano yn fy ateb gwreiddiol i chi, y £304,000, roedd hwnnw—credaf ei fod ar gyfer 357 o gartrefi os cofiaf yn iawn. Credaf inni ariannu oddeutu 85 y cant. Felly, mae'r cyllid hwnnw ar gael i'r holl awdurdodau rheoli risg a CNC, felly, pe bai awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin yn dymuno gwneud cais am y cyllid hwnnw, byddent yn gallu gwneud hynny. Nid wyf yn siŵr a glywsoch chi fi'n dweud mewn ateb cynharach fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn nad yw unigolion yn gofyn am yr arian ac yna'n gosod beth bynnag y maent yn penderfynu ei gael eu hunain. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod yr offer y maent yn ei gael yn hollol iawn ar gyfer eu cartref, ac yn rheoli'r perygl mewn ffordd sy'n gywir. Felly, y rheswm pam nad ydym wedi rhoi cyllid i unigolion ond i'r awdurdodau eu hunain yw er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd.