Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Dwi'n ddiolchgar am yr ymateb, ac, wrth gwrs, mae unrhyw arian sydd wedi cael ei ddarparu i'w groesawu. Dwi wedi ymweld â chymuned yn fy etholaeth i, Pontargothi, yn ddiweddar, fel mae'r Gweinidog yn ymwybodol, a dwi'n edrych ymlaen i gwrdd i drafod buddsoddiadau gall atal llifogydd yn y dyfodol. Ond un thema sydd yn codi'n gyson, pan dwi yn ymweld â phobl sydd wedi cael eu heffeithio, ydi buddsoddiad arian ar gael ar gyfer mesurau ataliol unigol ar gyfer tai—felly, amddiffynfeydd, lle bod hynny'n briodol, hefyd addasu tai, lle bod hynny yn fwy addas. Mae yna gynllun gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol sy'n dyrannu £5,000 i gartrefi neu fusnesau er mwyn iddynt wella eu hamddiffynfeydd. Fydd yna gynllun cenedlaethol ar gael i drigolion Cymru i'r un graddau hefyd?