Pysgod Cregyn

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 18 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:09, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, nid yw pysgod cregyn wedi'u rhwymo gan gwotâu, yn amlwg, felly nid yw hynny'n berthnasol i'r sylw terfynol. A chododd fy nghyd-Aelod Julie James y mater hwn gyda mi dri neu bedwar mis yn ôl, ac mae'r cynnydd yn y maint glanio lleiaf yn caniatáu i fwy o gregyn moch gyrraedd oedran bridio ac yn gwella cynaliadwyedd stociau cregyn moch. Nid yw cregyn moch ym mae Abertawe yn rhywogaeth wahanol, ond maent yn llai o ran maint, gan yr ymddengys bod eu twf yn cael ei atal, sydd, dywedir wrthyf, yn ganlyniad posibl i dymheredd uwch y dŵr yn ne Cymru o gymharu â gogledd Cymru, ac yn sicr, gallaf dystio i’r gwahaniaeth hwnnw mewn tymheredd. Ond yn sicr, mae'r ardal yr effeithir arni'n gymharol fach, ond credaf y byddwn yn cadw'r maint glanio lleiaf dan arolwg ar gyfer yr ardal hon.