Pysgod Cregyn

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 18 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:10, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, er mwyn inni allu cefnogi ein diwydiant pysgod cregyn, mae angen diwydiant pysgod cregyn arnom i’w gefnogi, ac mae mis Rhagfyr nid yn unig yn ddyddiad terfynol ar gyfer cytundeb gyda’r UE ond hefyd ar gyfer cydymffurfiaeth â dyfarniad y Comisiwn Ewropeaidd yn 2017 yn achos C-502/15, a ddygwyd yn erbyn Llywodraeth y DU, a de facto yn erbyn Llywodraeth Cymru, am fethu â chyflawni rhwymedigaethau'n ymwneud â thrin dŵr yng Nghilfach Tywyn. Fel y gwyddoch, mae'r cocos yn dal i fethu aeddfedu'n llawn yn y dyfroedd hynny, gan leihau'r cyflenwad. Mae'n rhaid i werthwyr o Gymru fewnforio cocos o bryd i’w gilydd i ateb y galw lleol. Felly, a allwch roi sicrwydd pendant y byddwn yn cydymffurfio'n llawn o fewn y saith wythnos nesaf, a thrwy hynny, osgoi bod yn agored i ddirwy sylweddol, ond yn bwysicach fyth, i gynnig sicrwydd go iawn i'n proseswyr cocos?