Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn am y diwydiant pysgod cregyn, a'r ffordd orau o’i ddiogelu yw aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n bryderus iawn am y diwydiant pysgod cregyn, yn enwedig os byddwn yn gadael heb gytundeb. Ni allaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi o fewn y cyfnod o saith wythnos honno yma, ond fe wnaf ysgrifennu atoch, gan y gwn y byddaf yn cael cyfarfod yn ystod y pythefnos nesaf ynglŷn â’r mater hwn, yn enwedig ynglŷn â Chilfach Tywyn, felly byddaf yn ysgrifennu atoch wedi i mi gael y cyfarfod hwnnw.