Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Diolch. Mewn ymateb i stormydd mis Chwefror, darparodd Llywodraeth Cymru becyn cymorth cynhwysfawr gwerth cyfanswm o £9.2 miliwn. Rwy'n annog mesurau gwrthsefyll llifogydd ar lefel eiddo lle gall hynny leihau risg ymhellach, a'r wythnos hon, dyfarnais £303,450 i Rondda Cynon Taf ar gyfer gatiau llifogydd. Eleni, darparais dros £1 filiwn ar gyfer mesurau o'r fath i fod o fudd i 594 o gartrefi.