1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 18 Tachwedd 2020.
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â pharthau perygl nitradau ledled Cymru? OQ55869
Diolch. Rwyf wedi gofyn i swyddogion roi cyngor ar gyflwyno deddfwriaeth mewn ymateb i lefelau annerbyniol o lygredd amaethyddol yn sgil arferion amaethyddol gwael yng Nghymru. Bydd yn ystyried pryderon parhaus Aelodau o'r Senedd a'r cyhoedd, ac effeithiau COVID-19.
Fe fyddwch yn ymwybodol mai ein safbwynt ni yw ein bod yn cydnabod bod angen i lygredd a achosir gan amaethyddiaeth ddod i ben. Mae gennym farn wahanol ynglŷn â’r fethodoleg ar gyfer gwneud hynny. Ond yr hyn roeddwn am ei drafod oedd cynllun gorchudd iardiau’r grant busnes fferm, a lansiwyd yn gynharach y mis hwn, Weinidog, i ddarparu grantiau i ffermwyr i'w helpu i gydymffurfio â rheoliadau’r parthau perygl nitradau pan gânt eu cyflwyno yn nes ymlaen eleni. Fodd bynnag, mae nifer o ffermwyr wedi mynegi pryderon nad ydynt yn gymwys i gael y cyllid hwn, a chyda chyllideb gyffredinol o £1.5 miliwn, gydag uchafswm dyfarniad o £40,000, pe bai pob grant yn cael yr uchafswm, mae'n fy nharo mai 37 neu 38 o ymgeiswyr yn unig y byddem yn gallu eu helpu. Weinidog, i ddangos bod Llywodraeth Cymru yn deall angen y diwydiant amaethyddol, a'u hymdrechion i geisio dileu llygredd ar ffermydd, a wnewch chi gynorthwyo'r holl ffermwyr sydd angen y gefnogaeth i baratoi ar gyfer y parthau perygl nitradau? Gwyddom y bydd hyn yn gostus. Ac a wnewch chi ymrwymo i adolygu'r cynllun, ac yn yr un modd ag y gwnaethoch wrth sefydlu cyllid adnoddau naturiol a lles, a wnewch chi ystyried sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael o’ch portffolio?
Diolch. Wel, nid wyf yn siŵr fod gennym wahaniaeth barn. Byddai dull Cymru gyfan o fynd i'r afael â llygredd amaethyddol yn gyson â'r cyngor a gawsom gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd. Dywedasant fod yn rhaid ymestyn y parthau perygl nitradau i gwmpasu’r Deyrnas Unedig gyfan, a phe na baem yn gwneud hynny, gwn y byddai hynny'n tanseilio uchelgais y DU gyfan mewn perthynas â'r argyfwng hinsawdd.
Mewn perthynas â'r cynllun gorchuddio iardiau a gyhoeddais y mis diwethaf, fe’i datblygwyd yn dilyn trafodaethau gydag undebau’r ffermwyr. Yn sicr, nid ydynt wedi dweud wrthyf fod ffermwyr yn cael trafferth gyda'r cynllun, ond rwy’n fwy na pharod i ofyn iddynt pan fyddaf yn cyfarfod â hwy, gan fy mod yn gwneud hynny'n rheolaidd, fel y gwyddoch, ac rwy'n siŵr y byddaf yn cyfarfod â hwy yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. Ond mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud popeth y gallwn ei wneud mewn perthynas â llygredd amaethyddol, a byddai'r rhan fwyaf o ffermwyr yn cytuno'n llwyr â hynny, ac yn gwneud popeth y gallant ei wneud i osgoi llygredd amaethyddol. Ond yn anffodus, rydym yn dal i weld nifer uchel o ddigwyddiadau wedi'u cadarnhau. Erbyn diwedd y mis diwethaf, roeddem wedi gweld 123 eleni yn unig, ac wrth inni fynd i mewn i fisoedd y gaeaf, rydym yn disgwyl i nifer y digwyddiadau godi, fel y gwnânt bob blwyddyn, oherwydd cynnydd yn y glawiad. Felly, yn anffodus, credaf nad oes tuedd weladwy ar i lawr.
Diolch i'r Gweinidog.