2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 18 Tachwedd 2020.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio? OQ55882
Diolch yn fawr iawn, Joyce. Gwnaf. I ddechrau, roedd £9.5 miliwn ar gael yn y flwyddyn ariannol hon, ond ers hynny, rydym wedi penderfynu cynyddu'r gyllideb i £19.5 miliwn. Rwy'n ddiolchgar iawn i'm cyd-Aelod, Rebecca Evans, am y gallu i wneud hynny. Mae pum cynllun wedi sicrhau cefnogaeth, gan gynnwys un consortiwm mawr, sy'n cynnwys 26 o landlordiaid cymdeithasol. Mae’r cynlluniau ym mhob rhan o Gymru, a byddant yn treialu gwahanol atebion, gan gynnwys ar gyfer eiddo nad yw ar y grid nwy.
Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwy'n sylweddoli ei bod yn ddyddiau cynnar ar y rhaglen ar hyn o bryd. Rwy'n croesawu dull Llywodraeth Cymru o dreialu uwchraddiadau fel y gallwn ddatblygu dealltwriaeth dda o'r hyn sydd fwyaf effeithiol. Os bydd y rhaglen, fel y gobeithir, yn cael ei chyflwyno dros y blynyddoedd i ddod, mae'r potensial ar gyfer swyddi medrus ym maes adeiladu yn addawol dros ben. Wrth gwrs, bydd angen gweithwyr adeiladu arnom a chanddynt y sgiliau i gyflawni'r gwaith hwn. Rwy'n ymwybodol y bydd Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu yn lansio adroddiad sy'n edrych ar y mater penodol hwnnw cyn bo hir, ac edrychaf ymlaen at ei weld.
Weinidog, a allwch ddweud wrthyf pa gamau sy'n cael eu cymryd ar hyn o bryd i sicrhau bod cyfleusterau hyfforddi a chyrsiau ar gael, fel nad oes unrhyw oedi rhwng lansio rhaglen a chael y bobl â'r sgiliau angenrheidiol i gyflawni'r gwaith hwnnw?
Ie, diolch, Joyce. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol iawn o'ch diddordeb hirsefydlog a pharhaus mewn sgiliau yn y sector hwn, yn enwedig i fenywod, ac un o'r pethau gwirioneddol hyfryd am allu gwneud hyn yn y ffordd hon yw’r amrywiaeth y byddwn yn gallu ei hannog yn y gweithlu. Felly, treial yw hwn sy'n cynnwys dros hanner landlordiaid cymdeithasol Cymru, ac sy’n ein helpu i nodi bylchau sgiliau yn gyflym yn eu sefydliadau, yn eu cadwyni cyflenwi ac yn eu partneriaid cyflenwi fel y gallwn sefydlu beth yw’r galw a rhoi'r hyfforddiant priodol ar waith cyn ei gyflwyno i bob cartref. Dyna ran o bwynt cael hwn fel cynllun, fel y gallwn brofi beth sy'n digwydd ym mhob un o'r gwahanol fathau o eiddo. Mae'n egwyddor allweddol, a chaiff ei noddi ar y cyd gennyf fi, y Gweinidog Addysg a Gweinidog yr economi am y rheswm hwn. Mae'n egwyddor allweddol nid yn unig ein bod yn ôl-osod y cartrefi yn y cynllun, ond ein bod yn ei dreialu er mwyn ei gyflwyno ledled Cymru ar draws pob math o ddeiliadaeth. Felly, yn sicr, mae a wnelo hyn â darganfod beth sy'n gweithio, sut olwg sydd ar y cadwyni cyflenwi, beth yw'r bwlch sgiliau a sut y gallwn gynyddu hynny ar ei gyfer.
Yn sicr, byddwn yn cael ein llywio gan y dadansoddiad o sgiliau sero-net pwrpasol y cyfeirioch chi ato gan fwrdd hyfforddi'r diwydiant adeiladu, a byddwn hefyd yn ystyried unrhyw argymhellion perthnasol gan y tasglu adferiad gwyrdd, sy'n cael ei arwain gan Syr David Henshaw. Ac rydym wedi bod yn gweithio hefyd gyda'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol, sydd wedi datblygu'r agenda hon ar draws tri rhanbarth Cymru, gan nodi'r sgiliau lleol sydd ganddynt a pha gymorth sydd ei angen arnynt i gefnogi’r gwaith o fabwysiadu arferion a thechnolegau carbon isel. Felly, yn sicr, dyma’r dull integredig y gwn y byddech yn falch o’n gweld yn ei ddefnyddio, ac mae'n sicr yn ymwneud â sicrhau ein bod yn gwella sgiliau'r gweithlu er mwyn gallu ei gyflwyno'n fwy cyffredinol, ond rydym hefyd yn datblygu'r cadwyni cyflenwi a'r partneriaid cyflenwi a'u gweithluoedd, yn hytrach na gweithlu'r sector cyhoeddus yn unig.
Weinidog, tybed a allech ddweud wrthym sut rydych yn mynd i nodi’r eiddo hŷn sy'n rhan sylweddol o stoc dai Cymru, ac yn sicr cyn 1930 ac yn enwedig cyn y rhyfel byd cyntaf, ychydig iawn o'r eiddo hynny sydd yn nwylo landlordiaid cymdeithasol, ac eto mae'n debyg fod y crynhoad mwyaf o deuluoedd incwm isel yn byw yn y math hwnnw o dai. Maent hefyd yn anodd eu hôl-osod. Felly, mae angen inni ganolbwyntio ar yr eiddo sy'n anoddach eu cael os ydynt yn mynd i elwa o'r hyn rwy’n ei chroesawu fel menter dda.
Oes, yn sicr, ac rydych yn llygad eich lle, nid oes llawer ohonynt yn y sector cymdeithasol, ond rydym yn chwilio am y rheini sydd i’w cael. Y syniad yw nodi grŵp digon o faint o bob math o dŷ yng Nghymru a threialu beth fydd yn gweithio i'r tai hynny, heb bennu targedau amhosibl. Felly, nid ydym yn dweud y byddwn yn sicrhau y bydd pob cartref yn cael gradd A ar eu Tystysgrif Perfformiad Ynni, yr hyn rydym yn ei ddweud yw: a allwn sicrhau bod pob cartref cystal ag y gall fod? Ac os yw hynny’n sero-net o ran carbon, mae hynny'n wych, ond os yw’n radd B ar eu Tystysgrif Perfformiad Ynni ac mai dyna'r gorau rydych yn mynd i'w gael, yna mae angen inni wybod hynny wrth ddod allan o'r rhaglen, ac mae angen inni gael polisi sy'n mynd i'r afael â’r mater hwnnw wrth symud ymlaen, gan fy mod yn amau'n fawr ein bod am ddymchwel ein holl dai treftadaeth ar y sail na allant gyflawni sero-net o ran carbon.
Un o'r pethau mawr yr edrychodd y grŵp datgarboneiddio arno oedd y cylch oes cyfan. Felly, nid ymwneud yn unig â sicrhau bod cartrefi’n cyrraedd sero-net o ran carbon y mae hyn, ond hefyd beth sy'n digwydd os byddwch yn eu dymchwel. Mae gennych bentwr enfawr wedyn o wastraff drud-ar-garbon y bydd rhaid i chi ymdrin ag ef. Felly, nid dyna'r ateb chwaith, heb sôn am y cysylltiadau hanesyddol a theuluol ac ati. Felly, nid yw'n gweithio o ran carbon beth bynnag. Felly, holl bwynt y rhaglen hon yw gwneud y gorau y gallwn gyda'n stoc dai a gallu datblygu polisïau sy'n caniatáu inni fynd i'r afael â'r problemau sydd ar ôl. Ac yn sicr, mae angen inni sicrhau bod gennym ateb ar gyfer pob math o dŷ yng Nghymru, gan gynnwys y nifer fawr iawn o dai teras cerrig Fictoraidd ac ati y cyfeiriwch atynt.