Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 18 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:42, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Iawn. Diolch ichi am hynny, Weinidog. O ran y newid diwylliant sydd ei angen, yn amlwg, nid staff awdurdodau lleol, sy'n cynllunio ac yn comisiynu gwasanaethau, yn unig sydd angen y ddealltwriaeth honno a'r tosturi rydych newydd gyfeirio ato. Yn ddiweddar, mae—. Rydym wedi gweld sylwadau anffodus gan gynghorydd awdurdod lleol yng ngogledd Cymru sydd fel pe baent yn awgrymu nad oedd pobl sydd â 'ffyrdd caotig o fyw', fel y dywedodd y cynghorydd hwnnw, yn haeddu gwasanaethau 'drud', a defnyddio geiriau'r cynghorydd hwnnw unwaith eto. Mae hyn, wrth gwrs, er gwaethaf y ffaith bod atal a datrys digartrefedd bob amser yn rhatach na gadael iddo ddigwydd, ac mae'n dal i fod yn anffodus nad yw pobl sy'n gwneud y penderfyniadau hyn yn deall hynny.

Felly, hoffwn ofyn i chi yn olaf, Weinidog: pa gamau y gwnewch chi eu cymryd i fynd i'r afael â'r rhagfarn ymhlith cynghorwyr awdurdodau lleol? Tosturi sydd ei angen, onid e, nid creu dihirod o'r bobl hyn.